Wtracaeth

Athrawiaeth Gristnogol yw Wtracaeth[1] sydd yn mynnu bod yn rhaid i offeiriaid weini dwy elfen y cymun – y bara a'r gwin – i leygwyr wrth ddathlu'r Ewcharist er mwyn sicrhau iachawdwriaeth. Roedd yn groes i'r arfer o weini'r ddwy elfen i glerigwyr a bara yn unig i leygwyr. Bôn yr enw ydy'r adferf Ladin utraque, sef "y ddau gyda'i gilydd". Gelwir y rhai sydd yn arddel yr athrawiaeth hon yn Wtracyddion.[2] Bu'r Wtracyddion yn fudiad gweithgar, fel is-enwad o'r Husiaid, yng Nghanolbarth Ewrop o'r 15g hyd at ddechrau'r 17g.

Data cyffredinol
Rhan oEucharistic theology Edit this on Wikidata
Torlun pren Sacsonaidd o'r 16g sydd yn dychmygu Martin Luther a Jan Hus yn gweini dwy elfen y cymun.

Wtracaeth oedd un o'r prif egwyddorion yn nogma dilynwyr Jan Hus, a arweiniodd y Diwygiad Bohemiaidd yn y cyfnod cyn-Brotestannaidd yn nechrau'r 15g. Ymholltai'r Husiaid yn sawl sect, y mwyafrif ohonynt yn Wtracyddion, a charfan sylweddol yn Daboriaid. Yn wahanol i'r Taboriaid milwriaethus, grŵp cymedrol oedd yr Wtracyddion a chawsant eu cydnabod yn wir Gristnogion gan yr Eglwys Gatholig Rufeinig yng Nghyngor Basel yn 1433. Ymunodd yr Wtracyddion â lluoedd Catholig Bohemia i drechu'r Taboriaid ac Husiaid Radicalaidd eraill ym Mrwydr Lipany yn 1434. Yn ddiweddarach datblygodd yr Wtracyddion yn eglwys annibynnol. Gwaharddwyd yr Wtracyddion, a phob sect Protestannaidd arall, ym Mohemia yn sgil buddugoliaeth y Catholigion ym Mrwydr y Mynydd Gwyn yn 1620.[3]

CyfeiriadauGolygu

  1. Geiriadur yr Academi, "Utraquism".
  2. Geiriadur yr Academi, "Utraquist".
  3. (Saesneg) Utraquist. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 31 Mawrth 2020.