Martin Luther
Offeiriad, diwinydd a diwygiwr eglwysig o'r Almaen oedd Martin Luther (10 Tachwedd 1483 – 18 Chwefror 1546). Ef fu'n gyfrifol am symbylu'r Diwygiad Protestanaidd.
Martin Luther | |
---|---|
Ganwyd | Martin Luder 10 Tachwedd 1483 Lutherstadt Eisleben |
Bedyddiwyd | 11 Tachwedd 1483 |
Bu farw | 18 Chwefror 1546 Lutherstadt Eisleben |
Man preswyl | Lutherstadt Eisleben, Mansfeld, Magdeburg, Eisenach, Erfurt, Wittenberg |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfieithydd, diwinydd, athro cadeiriol, cyfreithiwr, cyfieithydd y Beibl, emynydd, diwygiwr Protestannaidd, athronydd, gweinidog bugeiliol, llenor, pregethwr, cyfansoddwr, copïwr, offeiriad Catholig, reformator |
Swydd | academydd |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | y Naw Deg a Phum Pwnc |
Prif ddylanwad | Awstin o Hippo |
Mudiad | y Dadeni Almaenig, y Diwygiad Protestannaidd, Protestaniaeth |
Tad | Hans Luther |
Mam | Margaretha Luther |
Priod | Katharina von Bora |
Plant | Elisabeth Luther, Paul Luther, Magdalena Luther, Margarete Kunheim, Martin Luther, Johannes Luther |
llofnod | |
Ganwyd Martin Luther yn Eisleben yn Sacsoni. Treuliodd 1505 fel mynach yn Erfurt, a gweithiodd fel doctor diwinyddiaeth yn Wittenburg yn 1512.
Ar 31 Hydref 1517 hoeliodd Martin Luther ddarn o bapur ar ddrws eglwys gadeiriol Wittenberg a oedd yn rhestru 95 o ddadleuon yn erbyn yr Eglwys Babyddol. Gwrthwynebai'n gryf yr honiad y gellid prynu achubiaeth o gosb Duw gydag arian. Roedd Luther yn dysgu nad oedd iachawdwriaeth i'w gael drwy weithredoedd da ond i'w gael yn unig drwy ras Duw a ffydd yn Iesu Grist fel Iachawdwr. Roedd ei ddiwinyddiaeth yn herio awdurdod y Pab wrth ddysgu mai'r Beibl yw unig ffynhonnell datguddiad dwyfol.
Cyfieithodd Martin Luther y Beibl (y Testament Newydd ym 1521 a’r Hen Destament ym 1534) i Neuhochdeutsch (Uchel Almaeneg Gyfoes) ysgrifenedig, iaith a oedd bryd hynny yn dal i ddatblygu. Bu'n ysbrydoliaeth i ddatblygiad Prostaniaeth ar draws Ewrop, gan gynnwys yn Ffrainc lle adnabwyd hwy fel yr Hiwgenotiaid.
Dychwelodd i Eisleben a bu farw yno. Claddwyd ym mynwent Eglwys y Gastell yn Wittenburg.
-
Cerflun o Luther yn Brandenburg, Yr Almaen