Y Bachgen Mewn Pyjamas

Nofel gan yr awdur Gwyddelig John Boyne (teitl gwreiddiol: The Boy in the Striped Pyjamas, 2006) wedi'i haddasu i'r Gymraeg gan Emily Huws yw Y Bachgen Mewn Pyjamas a cyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch ym mis Medi 2009,[1] gan gyrraedd copa rhestr gwerthwyr gorau Gwales.com yr un mis.[2]

Y Bachgen Mewn Pyjamas
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
CrëwrJohn Boyne Edit this on Wikidata
AwdurJohn Boyne
CyhoeddwrGwasg Carreg Gwalch
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi5 Ionawr 2006 Edit this on Wikidata
Argaeleddmewn print
ISBN9781845271664
Dechrau/Sefydlu2006 Edit this on Wikidata
GenreNofel
Lleoliad y gwaithAuschwitz Edit this on Wikidata

Mae'n dilyn hanes yr Almaeniaid a'r Holocost o safbwynt bachgen bach. Yn wahanol iawn i'w lyfrau eraill, dywedodd Boyne iddo ysgrifennu draft cyntaf cyfan y llyfr hwn mewn deuddydd a hanner, a bu prin iddo gysgu o gwbl tan iddo ddod at y diwedd.[3] Hyd yn hyn, ar ei ffurf gwreiddiol Saesneg, mae wedi gwerthu dros 5 miliwn copi yn fyd eang, ac wedi ei gyhoeddi dan y teitl The Boy in the Striped Pajamas yn yr Unol Daleithiau. Hwn oedd y gwerthwr gorau yn Sbaen yn 2007 a 2008. Mae hefyd wedi bod yn werthwr gorau ar restr y New York Times, yn ogystal ag ym Mhrydain, Iwerddon, Awstralia a nifer o wledydd eraill.

Adolygiad Gwales golygu

Stori am blant diniwed mewn byd creulon, dyna’n sicr yr hyn a gawn yn y nofel hon, a dryswch y plant diniwed hynny wrth iddynt ddirnad creulondeb enbyd rhyfel.

Wrth i deulu Bruno orfod codi pac a symud i gartref newydd, anghysurus yn sgil gwaith cyfrinachol ei dad, cawn ein tywys fel yntau i fyd annifyr o orthrwm nad oes modd i unrhyw un ei ddeall. Ond mae chwilfrydedd Bruno i wneud ffrindiau â’i gymdogion newydd yr ochr draw i’r ffens yn arwain at gyfeillgarwch heb ei ail.

Mae addasiad Emily Huws yn ganmoladwy ac yn hynod naturiol wrth iddi bortreadu perthynas Bruno â’i chwaer, ei rieni a’r milwyr sydd wastad yn llechu rhwng y pedair wal.

Mae’r darllenydd ar bigau’r drain am ei fod eisiau cael gwybod beth fydd tynged Bruno a’i ffrind newydd, Shmwel, mewn byd mor gas. Mae tynged y ddau, heb os, yn hynod o emosiynol.

Llinos Griffin

Cyfeiriadau golygu