Y Bioden ar y Grocbren

Paentiad olew ar banel o bren a wnaed yn 1568 gan Pieter Bruegel yr Hynaf yw Y Bioden ar y Grocbren. Arlunydd Fflemaidd o gyfnod y Dadeni oedd Pieter Bruegel yr Hynaf (c. 1525 - 9 Medi 1569). O 1559 ymlaen arwyddodd ei enw heb yr h ar ei ddarluniau.

Y Bioden ar y Grocbren
ArlunyddPieter Bruegel yr Hynaf
Blwyddyn1568
Mathpaentiad olew ar banel o bren
Maint45.9 cm × 50.8 cm ×  (18.1 in × 20.0 in)
PerchennogHessisches Landesmuseum

Mae'r llun yn dylunio golygfa mewn coedwig, gyda thri gwerinwr yn dawnsio i gyfeiliant pibgorn, ger crocbren. Ar y grocbren gwelir pioden - sy'n hen arwydd o farwolaeth. Lleolir y grocbren yng nghanol y llun, gan ei rannu'n ddwy ran; mae'r ochr dde'r llun yn fwy "agored" na'r chwith.[1] Mae'r bioden yng nghanol union y llun. Mae siâp y grocbren yn "amhosibl" - yn debyg i Driongl Penrose, gyda'r golau a adlewyrchir ohono hefyd yn amhosibl. Pwrpas hyn ydy tynnu sylw'r gwyliwr i'r grocbren.

Gerllaw'r grocbren, saif pioden arall ar graig, ger penglog anifail. Yn y gornel chwith isaf, gwelir dyn yn ymgarthu a cheir gwerinwyr eraill sy'n gwylio'r dawnswyr wrthi. Ar y dde ceir croes Cristnogol a melin ddŵr yn y pellter sy'n agor yn ddyffryn ym mhellter eithaf y llun lle ceir tref ar y chwith a chastell ar graig arw uwch ei ben a thŵr castell ar graig ar y dde. Y tu ôl i'r dawnswyr ceir dwy goeden yn ymblethu drwy'i gilydd, gangen wrth gangen - symbol a ddefnyddiwyd mewn gwaith cynharach gan Bruegel. Mae'r teimlad o ddyfnder yn cael ei weithio drwy'r llun drwy ddefnydd yr arlunydd o gryfder lliw - brown tywyll yn y blaendir, gwyrdd niwtral yn y canol a glas a llwyd ysgafn, golau yng nghefndir y llun.

Cyfeiriadau golygu

  1. Early Netherlandish painting, Volume 4 of Collections of the National Gallery of Art Systematic Catalogue, Cambridge University Press, 1986, ISBN 0894680935, tud.32