Penglog
Fframwaith esgyrnog neu gartilagaidd pen y fertebratau ydy penglog, a hwnnw'n rhoi ffurf ac amddiffyniad i'r pen. Yn ogystal ag amddiffyn yr ymennydd yn y pen rhag niwed mae siâp y benglog yn pennu pellter y llygaid oddi wrth eu gilydd ac yn lleoli'r clustiau yn y fath fodd fel y gall y clyw farnu cyfeiriad a phellter sŵn.

Mae dwy ran iddi sef y creuan (craniwm) ac asgwrn yr ên (genogl, mandibl). Creuanogion yw'r cordogion hynny sydd â chreuan ac fe'i defnyddir fel cyfystyr am ‘fertebratau’ mewn rhai trefnau dosbarthu. Ymhellach isrannir y creuan yn badell yr ymennydd (niwrocraniwm) ac yn sgerbwd yr wyneb (fiscerocraniwm) sy'n cynnwys cwpanau esgyrnog yr organau synhwyro.