Y Clwb, Llansanffraid Glan Conwy

tafarn cymunedol yn Llansanffraid Glan Conwy

Mae Y Clwb yn dafarn cymunedol yn Llansanffraid Glan Conwy sy'n sefyll ar dir Cae Ffwt, maes chwarae, Clwb Pêl Droed Glan Conwy.

Y Clwb, Llansanffraid Glan Conwy
Mathtafarn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadLlansanffraid Glan Conwy Edit this on Wikidata
SirCyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.270097°N 3.797385°W Edit this on Wikidata
Cod postLL28 5SP Edit this on Wikidata
Map

Hanes golygu

Yn 2017 cynigwyd adeilad, nad oedd ei angen mwyach, gan Glwb pêl-droed Rhuthun [1], i'r sawl oedd yn fodlon ei dderbyn. Wedi arolwg gan swyddogion clwb Llansanffraid Glan Conwy, penderfynwyd bod modd symud yr adeilad a'i droi yn far ar gyfer y maes pêl-droed leol. Symudwyd yr adeilad trwy garedigrwydd cwmni lleol Buckleys [2], heb iddynt godi tal am y gwaith

Rhoddodd y cwmni adeiladu lleol Cwmni Brenig llawer o wasanaeth rhad i'r prosiect [3] o droi'r adeilad yn dafarn.

Agorwyd y Clwb yn swyddogol ar 9 Mai, 2019 gan yr AC leol Janet Finch-Saunders.[4] Mae'r Clwb yn cael ei reoli gan Gwmni Budd Cymdeithasol [5] er mwyn cefnogi chwaraeon, adloniant a gweithgareddau cymdeithasol eraill yn y fro [6].

Cyfeiriadau golygu

  1. willcatterall. "Clwb Pêl Droed Rhuthun". Y Clwb Pêl-Droed. Cyrchwyd 2019-11-18.
  2. Buckley’s Mobile Crane Service adalwyd 19 Tachwedd 2019
  3. "Brenig | Construction & Civil Engineering | North Wales - Brenig Construction". brenigconstruction.co.uk. Cyrchwyd 2019-11-18.
  4. "Aberconwy AM Opens Community Bar in Glan Conwy". Janet Finch-Saunders. Cyrchwyd 2019-11-18.
  5. "GLAN CONWY SPORTS ASSOCIATION CIC - Overview (free company information from Companies House)". beta.companieshouse.gov.uk. Cyrchwyd 2019-11-18.
  6. "Glan Conwy community bar already benefits community organisations". North Wales Pioneer. Cyrchwyd 2019-11-18.