Llansanffraid Glan Conwy

pentref a chymuned ym Mwrdeisdref Sirol Conwy

Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Llansanffraid Glan Conwy,[1][2] weithiau Llansantffraid Glan Conwy neu dim ond Glan Conwy. Yn ogystal a'r brif "Llan" mae'r cymuned yn cynnwys trefgorddau Pentrefelin a Dolwyd.

Llansanffraid Glan Conwy
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlFfraid Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,196 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy, Clwyd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,747.78 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.268°N 3.796°W, 53.2667°N 3.8°W, 53.26073°N 3.7817°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000130 Edit this on Wikidata
Cod OSSH8075 Edit this on Wikidata
Cod postLL28 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJanet Finch-Saunders (Ceidwadwyr)
AS/auRobin Millar (Ceidwadwyr)
Map
Am leoedd eraill o'r enw "Llansanffraid" (neu enwau tebyg), gweler Llansantffraid (gwahaniaethu).

Saif y gymuned ar lan ddwyreiniol Afon Conwy, ychydig i'r de i bentref Cyffordd Llandudno a'r pontydd dros Afon Conwy. Mae'r briffordd A470 yn arwain trwy'r pentref ac mae yno orsaf ar Reilffordd Dyffryn Conwy.

Hanes golygu

Cafodd y Llan ei sefydlu, yn ôl traddodiad, pan wnaeth Sant Ffraid hwylio o'r Iwerddon ar dywarchen a glanio ar lan Afon Conwy, tua chwarter milltir i'r gorllewin o'r eglwys bresennol. Fodd bynnag, mae cofnodion yn dangos bod y plwyf wedi ei greu gan Maelgwyn Gwynedd yn y 5g, a bod pum maenor frenhinol wedi cael eu rhoi i'r eglwys i greu'r plwyf. Mae'r rhain yn cael eu cofio yn enwau'r pum trefgordd sy'n goroesi hyd heddiw, Trellan, Trebwll, Tre Trallwyn, Tre Deunant a Phen y Rhos.

Dydd nawddsant y plwyf yw Chwefror y cyntaf [3], pryd ddisgwylir i'r plwyfolion dangos teyrngarwch i'r nawddsant trwy osod corsennau wrth eu drysau. Hen enw ar gorsennau yw "cawn" sydd yn rhoi'r enw i'r afon (cawn/wy duw'r gorsen) ac yn awgrymu bod yr arfer o osod corsennau yn hŷn na'r arfer o glodfori'r Sant Cristionogol.

Economi golygu

Yn hanesyddol prif ddiwydiannau'r pentref oedd amaethyddiaeth a docio sych & siandlera ar gyfer porthladd Conwy. Pan adeiladwyd pontydd Telford (1826) a Stephenson (1848) cafodd y pentref ei ddatgysylltu o'r môr mawr a dechreuodd cyfnod o ddirywiad. Heddiw, mae'n bentref dormitary, mae'r mwyafrif helaeth o'r boblogaeth un ai wedi ymddeol neu'n bobl sy'n cymudo i'r gwaith. Mae Parc Busnes Cae Ffwt, a leolir ar ochr yr A470, wedi dod yn ganolfan i ychydig o fusnesau bach a sefydlwyd yn y pentref.

Llywodraeth golygu

Mae'r Cyngor Cymuned Llansanffraid Glan Conwy yn cynnwys deuddeg o aelodau, chwech o bob un o'r ddwy ward, Bryn Rhys a Fforddlas[4]. Mae'n cynrychioli pobl leol ac mae'n gyfrifol am gynnal prosiectau lleol.

Gwneuthuriad gwleidyddol y Cyngor presennol yw 11 aelod annibynnol, ac un Democrat Rhyddfrydol. Megis y rhan fwyaf o gynghorau cymunedol Cymru, prin yw'r sawl sy'n cael eu hethol i'r cyngor mewn etholiadau cystadleuol[5]

Llefydd o addoliad golygu

Mae gan y plwyf ei heglwys sydd wedi ei noddi i'w mabsant, Eglwys San Ffraid, sydd yn perthyn i'r Eglwys yng Nghymru ac yn rhan o Esgobaeth Llanelwy. Ym 1905 roedd y capeli anghydffurfiol canlynol yn wasanaethu'r plwyf hefyd:[6]

Enw Enwad Rhif yr Aelodau
Salem Fforddlas Bedyddwyr 250
Bryn Ebeneser Methodistiaid Calfinaidd 250
Croesengan Methodistiaid Calfinaidd 60
Moriah Methodistiaid Calfinaidd 100
Bryn Rhys Annibynwyr 69
Carmel Wesleaid 35
Tyn'y Celyn Wesleaid 36

Mae pob un ond Salem Fforddlas a Bryn Ebeneser wedi eu cau bellach.

RSPB golygu

Ychydig i'r gogledd o'r pentref ceir Gwarchodfa Natur Conwy, dan ofal yr RSPB, sy'n lle da i weld adar dŵr o bob math. Mae'r safle yn ymestyn o Gyffordd Llandudno i gyffiniau'r pentref. Mae'r fynedfa ar bwys yr A55 wrth y drofa am y Gyffordd. Ceir maes parcio a chyfleusterau ymwelwyr yno, ynghyd â llwybrau cerdded trwy'r gwlybdir.

Chwaraeon & adloniant golygu

Mae Clwb Pêl Droed Glan Conwy yn chware yng Nghynghrair Undebol y Gogledd [7]. Mae'r clwb yn aelod o Gymdeithas Pêl Droed Arfordir Gogledd Cymru.

Mae Cymdeithas Chwaraeon ac Adloniant Llansanffraid yn cynnal Gŵyl Hwyl yr Haf, Noson Tân gwyllt, a gweithgareddau chwaraeon amrywiol trwy gydol y flwyddyn.

Cynhelir cyngherddau, dramâu a phanto yn neuadd yr eglwys a pherfformir drama miragl y geni yn y parc cyhoeddus ychydig cyn y Nadolig pob blwyddyn.

Mae dau dafarn yn y pentref y Cross Keys ar Ffordd Llanrwst (A470) a thafarn budd Cymunedol Y Clwb ger y maes pêl-droed.

Pobl o Lan Conwy golygu

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[9][10][11]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llansanffraid Glan Conwy (pob oed) (2,196)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llansanffraid Glan Conwy) (765)
  
35.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llansanffraid Glan Conwy) (1283)
  
58.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llansanffraid Glan Conwy) (354)
  
35.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 21 Tachwedd 2021
  3. http://www.bbc.co.uk/cymru/bywyd/safle/crefydd-dweud/tudalen/110201.shtml
  4. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-01-11. Cyrchwyd 2014-12-09.
  5. New Glan Conwy Cllr Alwyn Ap Huw has branded local elections a mockery on his blog adalwyd 9 Rhagfyr 2014
  6. "Welsh Church Commission: County of Denbigh The Statistics of the Nonconformist Churches for 1905."
  7. "Division One Clubs - Glan Conwy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-07-03. Cyrchwyd 2017-12-05.
  8. Coflein - Plas Isaf adalwyd 25 Chwefror, 2019
  9. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  10. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  11. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.