Y Ddadl Fangoraidd
Dadl ddiwinyddol o fewn Eglwys Loegr yn y 18g oedd y Ddadl Fangoraidd (Saesneg: The Bangorian Controversy).
Tarddodd y ddadl o lyfr o waith George Hickes, a gyhoeddwyd yn 1716 ar ôl iddo farw. Yn Constitution of the Catholic Church, and the Nature and Consequences of Schism, dadleuai Hickes, dros esgymuno pob eglwyswr heblaw y rhai oedd wedi gwrthod y llw oedd yn derbyn y teyrnoedd William a Mary yn ben ar yr eglwys. Ymatebodd Benjamin Hoadly, Esgob Bangor, mewn llyfr dan y teitl Preservative against the Principles and Practices of Non-Jurors, oedd yn argymell safbwynt Erastiaeth, sef mai'r wladwriaeth a ddylai fod yn ben ar yr eglwys. Ar 31 Mawrth, 1717 pregethodd Hoadly, ym mhresenoldeb Siôr I ar Natur Teyrnas Crist. Roedd ei destun o Efengyl Ioan 18:36, "Fy mrenhiniaeth I, nid yw o'r byd hwn". O hyn, dadleuodd Hoadly nad oedd cyfiawnhad beiblaidd i unrhyw lywodraeth eglwysig. Perthynai'r eglwys i Dduw ac nid i'r byd hwn, meddai, ac nid oedd Crist wedi dirprwyo'i waith i unrhyw gynrychiolydd bydol.
Yn dilyn y bregeth
golyguCyhoeddwyd y bregeth yn syth ar ôl ei thraddodi, a daeth ymateb buan a chadarn yn ei herbyn. Gwrthwynebwyd safbwynt Hoadly gan William Law yn Three Letters to the Bishop of Bangor, Andrew Snape a Thomas Sherlock ymhlith eraill. Amddiffynnodd Hoadley ei hun yn ei ysgrif A Reply to the Representations of Convocation ac ymatebodd y brenin drwy ddiosg caplaniaeth brenhinol y tri yma (a Francis Hare, Deon Worcester). Mae'n ymddangos fod dros 200 o daflenni wedi eu cyhoeddi - gan 53 o awduron. Cyhoeddwyd 74 ohonynt yng Ngorffennaf 1717.[1][2][3]
Ym Mai 1717 penododd yr Eglwys bwyllgor (Convocation of the English Clergy) i studio'r bregeth ond pan oedd ar fin cyhoeddi eu hymchwiliad (a oedd yn llawdrwm ar Hoadley), daeth gorchymyn gan y brenin iddynt beidio, ac ni ddaethant at ei gilydd eto am 130 o flynyddoedd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Outlines of the History of the Theological Literature of the Church of England (1897)". Anglicanhistory.org. Cyrchwyd Mawrth 2013. Check date values in:
|accessdate=
(help) - ↑ "New Schaff-Herzog Encyclopedia of Religious Knowledge, Cyfrol V: Goar - Innocent - Christian Classics Ethereal Library". Ccel.org. Cyrchwyd Mawrth 2013. Check date values in:
|accessdate=
(help) - ↑ "History of English thought in the eighteenth century". Archive.org. Cyrchwyd March 2013. Check date values in:
|accessdate=
(help)