Thomas Sherlock

offeiriad (1678-1761)

Clerigwr Seisnig a fu'n Esgob Bangor ac awdur nifer o weithiau diwinyddol oedd Thomas Sherlock (167818 Gorffennaf 1761).

Thomas Sherlock
Ganwyd1678 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw18 Gorffennaf 1761 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethoffeiriad Edit this on Wikidata
SwyddEsgob Llundain, Esgob Caersallog Edit this on Wikidata

Ganed ef yn Llundain yn fab i William Sherlock. Addysgwyd ef yng Ngholeg Eton a Choleg Sant Catharine, Caergrawnt. Yn 1714 daeth yn is-ganghellor Caergrawnt, ac yn 1715 yn ddeon Chichester.

Bu ganddo ran amlwg yn y Ddadl Fangoraidd, gan wrthwynebu syniadau Erastaidd Benjamin Hoadly. Dilynodd Hoadly fel Esgob Bangor yn 1728. Trosglwyddwyd ef i Salisbury yn 1734 a daeth yn Esgob Llundain yn 1748.

Cyhoeddiadau

golygu
  • The Use and Interest of Prophecy in the Several Ages of the World (1725)
  • The Tryal of the Witnesses of the Resurrection of Jesus (1729)
  • Pastoral Letter (1750)
  • Sermons (1754-1758) mewn nifer o gyfrolau