Y Derwyddon: Cyfaredd Caer Is
Nofel graffig i oedolion (teitl gwreiddiol Ffrangeg: Les Druides: Is la Blanche) gan Jean-Luc Istin a Thierry Jigourel (stori) a Jacques Lamontagne (darluniau), wedi'i haddasu i'r Gymraeg gan Alun Ceri Jones yw Y Derwyddon: Cyfaredd Caer Is. Dalen a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 2007. Yn 2013 roedd y gyfrol mewn print.[1]
Enghraifft o'r canlynol | albwm o gomics |
---|---|
Awdur | Jean-Luc Istin a Thierry Jigourel |
Cyhoeddwr | Dalen |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Pwnc | Nofelau Cymraeg i oedolion |
Argaeledd | mewn print |
ISBN | 9780955136689 |
Darlunydd | Jacques Lamontagne |
Cyfres | Y Derwyddon: 2 |
Disgrifiad byr
golyguPam mae mynachod diniwed yr Eglwys Geltaidd yn cael eu llofruddio mor filain? Gwynlan y derwydd da sy'n ymchwilio i'r lladdedigaethau erchyll hyn, ac yn dilyn trywydd sy'n ei arwain at gwmni'r dywysoges nwydus Dahud, ac at dystiolaeth newydd syfrdanol.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013