Y Faner Newydd
Cylchgrawn Cymraeg annibynnol ydy Y Faner Newydd. Sefydlwyd yn 1997 gan Emyr Llywelyn ac Ieuan Wyn sy'n olygyddion ers y cychwyn. Mae'r enw yn deyrnged i hen bapur Y Faner a ddaeth i ben yn 1992, argreffir y cylchgrawn gan wasg Y Lolfa. Mae'r cylchgrawn yn canolbwyntio ar bynciau megis darlledu, llenyddiaeth, hanes, celfyddyd, gwyddoniaeth a materion cyfoes.
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | cylchgrawn ![]() |
Iaith | Cymraeg ![]() |
Lleoliad yr archif | Llyfrgell Genedlaethol Cymru ![]() |
Tydy'r cylchgrawn ddim wedi ceisio bod yn rhan o'r "sefydliad" ac yn wir mae wedi beirniadu'r sefydliad dro ar ôl tro e.e. ymgyrch i wella iaith cyflwynwyr Radio Cymru. Mae ef hefyd wedi rhoi sylw i bynciau sydd ar y ffin, ar yr ymylon.