Y Ferch o Berlin
Nofel Gymraeg i ddysgwyr yw Y Ferch o Berlin[1], a ysgrifennwyd gan Bob Eynon. Fe'i sgwennwyd fel bod y testun yn eithaf syml a chynhwysir geirfa ar waelod bob tudalen i roi cymorth i ddysgwyr.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig |
---|---|
Awdur | Bob Eynon |
Cyhoeddwr | Gwasg y Dref Wen |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1993 |
ISBN | 1-85596-033-8 |
Tudalennau | 59 |
Genre | Ffuglen |
Plot
golyguYm mis Tachwedd 1941 mae'r bomiau'n disgyn yn gyson ar ddinas Berlin. Mae Signor Cavallo, Mr Yakamura, Olaf Myhre a Tyrone Davies yn newyddiadurwyr yno. Yna, un diwrnod, mae Tyrone, Americanwr ifanc, yn cwrdd â Miriam ger y parc. Hi yw'r ferch brydferthaf a welodd erioed...
Cymeriadau
golygu- Mae Tyrone Davies yn newyddiadurwr Americanaidd ym Berlin ym 1941
- Olaf Myhre: newyddiadurwr o Sweden
- Signor Cavallo: newyddiadurwr o'r Eidal
- Mr Yakamura: newyddiadurwr o Siapan
- Mae Miriam yn ferch brydferth ac yn Iddewes