Sefydlwyd Gwasg y Dref Wen gan Roger Boore yn 1969, erbyn hyn mae'n un o brif weisg Cymru ym myd llyfrau plant. Lleolir ym mhentref yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd. Meibion Roger, sef Alun a Gwilym Boore sy'n rhedeg y wasg erbyn hyn. Enwir y wasg ar ôl 'Y Dref Wen' y cyfeirir ati yng Nghanu Heledd'.

Gwasg y Dref Wen
Enghraifft o'r canlynolcyhoeddwr Edit this on Wikidata
Logo'r Dref Wen

Mae gan y wasg 500 o lyfrau mewn print ar y funud. Maent yn cyhoeddi llyfrau Cymraeg a Saesneg, deunydd wedi ei addasu a gwreiddiol, i blant yn bennaf ond hefyd llyfrau i ddysgwyr o bob oedran.[1]

Y Dref Wen a gyfieithodd rhai o gyfres Asterix i'r Gymraeg yn yr 1970au a'r 1980au, ond mae'r llyfrau eisoes allan o brint.

Mae llyfrau sydd wedi eu cyhoeddi gan y wasg wedi ennill nifer o wobrau, y diweddaraf yw Y Llyfr Rysetiau: Gwaed y Tylwyth gan Nicholas Daniels a enillodd wobr Saesneg Tir na n-Og 2008.

Cyfeiriadau golygu

  1.  Dref Wen. Y fasnach lyfrau ar-lein (15 Hyd 2007).


  Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.