Y Frawdlys Waedlyd
Enw a roddir ar frawdlysoedd y gylchdaith orllewinol yn ystod haf 1685, dan lywyddiaeth yr Arglwydd Brif Ustus George Jeffreys, yn sgil trechu Dug Trefynwy ym Mrwydr Sedgemoor, yw y Frawdlys Waedlyd. Dienyddiwyd rhyw 150 o gefnogwyr Dug Trefynwy, y mwyafrif ohonynt yn ffermwyr a brethynwyr tlawd, ac alltudiwyd rhyw 800 ohonynt i India'r Gorllewin. O ganlyniad i’r dedfrydau llymion, cynyddodd cefnogaeth dros hawl Wiliam o Oren i orsedd Lloegr yn ne-orllewin y wlad.[1][2]
Darluniad o Jeffreys yn cadeirio'r Frawdlys Waedlyd, a ymddengys yn y llyfr The Western Martyrology; or, Bloody Assizes gan John Tutchin (1873). | |
Math o gyfrwng | Assizes |
---|---|
Dyddiad | 1685 |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Whiles, John (1985). Sedgemoor 1685 (yn Saesneg) (arg. 2nd). Chippenham: Picton Publishing. ISBN 978-0-948251-00-9.
- ↑ "The Bloody Assize" (yn Saesneg). Somerset County Council. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-08-07. Cyrchwyd 30 Hydref 2020.