George Jeffreys
Cyfreithiwr yn enedigol o Gymru oedd George Jeffreys, Barwn 1af Jeffreys o Wem (15 Mai 1645 – 18 Ebrill 1689).
George Jeffreys | |
---|---|
Ganwyd | 15 Mai 1645 Wrecsam |
Bu farw | 18 Ebrill 1689 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | barnwr, gwleidydd |
Swydd | Arglwydd Ganghellor, Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr, aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Lord Lieutenant of Shropshire |
Tad | John Jeffreys |
Mam | Margaret Ireland |
Priod | Anne Bludworth, Sarah Neesham |
Plant | Margaret Jeffreys, Sarah Jeffreys, John Jeffreys |
Ganed Jeffreys ym Mhlas Acton, Gwaunyterfyn, Wrecsam, yn chweched fab i John a Margaret Jeffreys. Bu ei daid, John Jeffreys (bu farw 1622) wedi bod yn Brif Ustus cylchdaith Môn o'r Sesiwn Fawr, ac roedd ei dad wedi ymladd dros y brenin yn Rhyfel Cartref Lloegr.
Addysgwyd yn Ysgol Amwythig o 1652 hyd 1659, yna Ysgol St Paul's yn Llundain hyd 1661, Ysgol Westminster am flwyddyn ac yna Coleg y Drindod, Caergrawnt yn 1662, gan adael heb radd ar ôl blwyddyn i ymuno â'r Deml Fewnol
Enillodd ffafr y brenin Iago II, a gwnaethpwyd yn Farwn Jeffreys o Wem pan ddaeth i'r orsedd ac yn Arglwydd Ganghellor yn 1685. Daeth yn enwog fel y gŵr a lywyddodd dros y Frawdlys Waedlyd, pan ddedfrydwyd llawer o ddilynwyr Dug Mynwy yn dilyn ei wrthryfel.
Pan ddiorseddwyd Iago II, ceisiodd ffoi o'r wlad, ond daliwyd ef a carcharwyd yn Nhŵr Llundain. Bu farw yno yn Ebrill 1689.
Swyddi gwleidyddol | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Syr Fraser Pemberton |
Arglwyddi Prif Ustus Mainc y Brenin 1683–1685 |
Olynydd: Syr Edward Herbert |
Rhagflaenydd: Yr Arglwydd Guilford (Lord Keeper) |
Arglwydd Canghellor 1685–1688 |
Olynydd: Mewn Comisiwn |
Teitlau Anrhydeddus | ||
Rhagflaenydd: Iarll Bridgewater |
Custos Rotulorum Swydd Buckingham 1686–1689 |
Olynydd: Yr Alglwydd Wharton |
Rhagflaenydd: Iarll Bridgewater |
Arglwydd Raglaw Swydd Buckingham 1687–1689 |
Olynydd: Iarll Bridgewater |
Rhagflaenydd: Iarll Bradford |
Arglwydd Raglaw Swydd Amwythig 1687–1689 |
Olynydd: Iarll Bradford |
Barwnigion Lloegr | ||
Rhagflaenydd: Creadigaeth newydd |
Barwnig (o Bulstrode, Swydd Buckingham) 1681–1689 |
Olynydd: John Jeffreys |
Pendefigaeth Lloegr | ||
Rhagflaenydd: Creadigaeth newydd |
Barwn Jeffreys o Wem 1685–1689 |
Olynydd: John Jeffreys |