Y Goedwig Gawraidd

Mae'r Goedwig Gawraidd (Giant Forest) yn rhan arbennig o Barc Cenedlaethol Sequoia, sy'n enwog am ei choed Sequoia Cawraidd. Gorwedd y goedwig ar uchder o 1,800 medr (6000 troedfedd) yng ngorllewin Sierra Nevada, yn nhalaith Califfornia, Unol Daleithiau America.

Y Goedwig Gawraidd
Mathcoedwig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolParc Cenedlaethol Sequoia Edit this on Wikidata
SirTulare County Edit this on Wikidata
GwladBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Arwynebedd7.6 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr6,972 troedfedd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau36.5624°N 118.751°W Edit this on Wikidata
Map
Coed Sequoia Cawraidd (Sequoiadendron) yn y Goedwig Gawraidd
Dôl Cryman yn y Goedwig Gawraidd, "Gem y Sierras" yn ôl John Muir
Coeden General Sherman, y goeden fwyaf yn y byd

Yr ardal golygu

Dywedir fod y Goedwig Gawraidd yn cynnwys pump allan o'r 10 coeden fwyaf yn y byd o ran eu sylwedd pren, gan gynnwys yr un fwyaf oll, sef Coeden General Sherman, gyda chylch o 11.1 meder (36.5 troedfedd) yn ei bôn.

Mae'n gorwedd yn agos i'r Ogof Grisial, Carreg Moro a Dôl Cryman. Mae pen gorllewinol y High Sierra Trail sy'n croesi'r Sierra Nevada i Fynydd Whitney ger Dôl Cryman.

Bywyd gwyllt golygu

Mae'r binwydden Ponderosa, Pinwydden Jeffrey, Pinwydden Siwgr, a'r binwydden gamfrig yn goed cyffredin yno, ynghyd â'r Ffynidwydden Wen a'r Ffynidwydden Goch. Gwelir ceirw asen (mule deer), gwiwerod Douglas, a'r Arth Ddu Americanaidd yn aml yn y cyffiniau.

Ddoe a heddiw golygu

Ar un adeg roedd dros 300 o dai ac adeiladau eraill yno ond heddiw dim ond pedwar adeilad sydd ar ôl a chyfyngir gweithgareddau i ymweliadau dydd yn unig

Mynediad golygu

Mae ffordd yn cysylltu'r ardal â Fresno a Visalia. Mae priffordd y parc yn rhedeg o'r goedwig i Parc Cenedlaethol Kings Canyon a Llwyn Grant, cartref Coeden General Grant a sequoias eraill.

Dolenni allanol golygu