Cylchgrawn Cymraeg oedd Y Gymraes ar gyfer merched Cymru, a sefydlwyd yn 1850 dan olygyddiaeth gweinidog anghydffurfiol a newyddiadurwr, Evan Jones (Ieuan Gwynedd).[1] Cyhoeddwyd y cylchgrawn fel ymateb i sylwadau'r Llyfrau Gleision yn 1847 bod merched Cymru yn anfoesol.[1] Roedd Ieuan Gwynedd eisiau profi fod y Llyfrau Gleision yn anghywir, ond roedd yn cydnabod nad oedd merched Cymru mewn sefyllfa cadarn oherwydd nad oeddent wedi derbyn addysg.[2] Bwriad y cylchgrawn felly oedd addysgu'r ferch Gymraeg sut i fod yn foesol, ac i fod yn fam a gwraig dibynadwy a threfnus.[3] Hyrwyddodd y ddelwedd o 'Angyles yr Aelwyd', sef delwedd delfrydol o'r ferch yn y cyfnod hwn, a gwelir hyn yn glir yn rhifyn gyntaf y cylchgrawn pan ddywed: 'Y mae dedwyddwch y gŵr yn dibynu ar WRAIG'.[4]

Oherwydd mai dyn oedd golygydd y cylchgrawn, a gan mai dynion oedd y mwyafrif o'r cyfranwyr, nid oedd gan y cylchgrawn y gallu i gynrychioli merched mewn ffordd realistig a theg: 'Gan na chynaliwyd Y GYMRAES erioed gan Ferched Cymru, ac mai meibion oedd ein darllenwyr gan y mwyaf, gorfodwyd ni i’w gwneud yn fwy llênorol a chyffredinol nag y dymunem’.[5] Daeth y cylchgrawn i ben ar ôl bron i ddwy flynedd (cyhoeddwyd y rhifyn olaf yn Rhagfyr 1851) gan nad oedd y cylchrediad yn fawr, a gan bod iechyd Ieuan Gwynedd wedi dirywio.[1] Cyhoeddiad annibynnol gan y cyhoeddwr ydoedd, heb unrhyw nawdd na chefnogaeth gan gymdeithas na mudiad. Ymunodd â chyhoeddiad ‘Y Tywysydd’ a oedd wedi ei hanelu at ieuenctid yn bennaf.[5]

Ni ddaeth yr un testun llenyddol arall i ferched i’r golwg yng Nghymru tan 1879 gyda chyhoeddiad y cylchgrawn Y Frythones. Sarah Jane Rees - neu’n fwy adnabyddus dan ei henw barddol, Cranogwen - oedd golygydd y cylchgrawn hwn.[6] Roedd amcan y cylchgrawn yn debyg i amcan Y Gymraes, sef i wella ymddygiad y Gymraes a'i hybu i fod yn wraig ac yn fam delfrydol.[1] Yn wahanol i'r Gymraes, merched oedd cyfranwyr y cylchgrawn hwn gan fwyaf, ac roedd Cranogwen yn annog merched i ysgrifennu wrth gyflwyno cystadleuthau llenyddol. Cyhoeddwyd y cylchgrawn o 1879 i 1891, a gellir cael mynediad iddo ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru.[7]

Wedi tua 40 mlynedd ers cyhoeddiad Y Gymraes cyntaf, cafwyd cylchgrawn arall dan yr un enw a'i hargraffwyd rhwng 1896 a 1934.[1] Golygwyd Y Gymraes y tro hwn gan ferched: Alice Gray Jones (Ceridwen Peris) i ddechrau, ac yna Mary Jane Griffith (Mair Ogwen).[1] Roedd y cylchgrawn yn dal i geisio ail-ddiffinio'r Gymraes, ond y tro hwn roedd cyfranwyr y cylchgrawn yn cynnwys nifer o ferched, ac roeddent yn gefnogol o ferched Cymru ac yn cydnabod eu cyfraniadau pwysig at y gymdeithas.[3] O 1901 ymlaen, dyma oedd cylchgrawn swyddogol Undeb Dirwestol Merched Gogledd Cymru.[1]

Mae'r cylchgronnau ar gael yn llawn ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru.[8]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 Clay, Catherine; Dicenzo, Maria; Green, Barbara; Hackney, Fiona (2018). Women’s Periodicals and Print Culture in Britain, 1918-1939: The Interwar Period. Edinburgh: Edinburgh University Press. tt. 281–293.
  2. Jones, Parch D. G. (1932). Cofiant Cranogwen. Caernarfon: Argraffdy'r Methodistiaid. tt. 105–126.
  3. 3.0 3.1 Aaron, Jane (1998). Pur fel y Dur: Y Gymraes yn Llên Menywod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. tt. 4–32.
  4. Gwynedd, Ieuan (Ionawr 1850). "Anerchiad". Y Gymraes 1: 3-8. https://journals.library.wales/view/2901815/2901821/#?xywh=-1480%2C-161%2C4801%2C3166.
  5. 5.0 5.1 Gwynedd, Ieuan (Rhagfyr 1851). "Anerchion". Y Gymraes 2: 365-369. https://journals.library.wales/view/2901815/2902577/#?xywh=-1480%2C-162%2C4801%2C3166.
  6. Aaron, Jane (2007). Nineteenth-Century Women’s Writing in Wales: Nation, Gender and Identity. Cardiff: University of Wales Press. tt. 132–159.
  7. "Y frythones | Cyf. IV - rhif. 3 - Mawrth 1882 | 1882 | Cylchgronau Cymru - Llyfrgell Genedlaethol Cymru". cylchgronau.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2022-03-10.
  8. "Cylchgronau Cymru - Adref". cylchgronau.llyfrgell.cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-19. Cyrchwyd 2022-03-10.