Evan Jones (Ieuan Gwynedd)
Bardd, awdur ysgrifau a newyddiadurwr Cymreig oedd Evan Jones (5 Medi 1820 – 23 Chwefror 1852), sy'n fwy adnabyddus wrth ei enw barddol Ieuan Gwynedd.
Evan Jones | |
---|---|
Ffugenw |
Ieuan Gwynedd ![]() |
Ganwyd |
5 Medi 1820 ![]() Dolgellau ![]() |
Bu farw |
23 Chwefror 1852 ![]() Caerdydd ![]() |
Dinasyddiaeth |
![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
bardd, newyddiadurwr, gweinidog yr Efengyl ![]() |
Cyflogwr |
|

BywgraffiadGolygu
Ganed Ieuan Gwynedd yn nhyddyn Bryntynoriad ar ochr y Garneddwen yn Rhydymain, ger Dolgellau, Meirionnydd (de Gwynedd) yn 1820. Yn y Tŷ Croes ychydig yn is i lawr i gyfeiriad Dolgellau, y treuliodd ei febyd. Yn 1837 aeth oddi cartref i gawd ysgol yn Aberhonddu a bu'n weinidog gyda'r Annibynwyr yn Nhredegar, yn yr hen Sir Fynwy am gyfnod. Priododd Catherine Sankey, o Swydd Amwythig, tra yn Nhredegar, ond bu farw hithau a'u plentyn yn ifanc. Gadawodd ei eglwys ac ymroddodd i lenyddiaeth a newyddiaduriaeth. Gweithiodd fel golygydd papurau newydd radicalaidd yn Llundain (The Standard of Freedom) a de Cymru (Y Gymraes, Yr Adolygydd). Priododd am yr ail dro a Rachel Lewis o Dredwstan. Ond dirywiodd ei iechyd yntau trwy ormod llafur a bu farw yn 31 oed ar fore Chwefror 23, 1852, yng Nghaerdydd.[1] Chafodd ei gladdu yn fynwent Capel Methodistaidd Groeswen.Mae'r atgof eitha crand yn bodoli yn y fynwent heddiw.
Gwaith llenyddolGolygu
Mae ei waith llenyddol yn cynnwys nifer o ysgrifau ac erthyglau ar bynciau fel dirwest ac anghydffurfiaeth a bu'n un o'r rhai a ymatebodd yn chwyrn i'r "enllib" ar foes y Cymry a defnyddioldeb yr iaith Gymraeg a geir yn y Llyfrau Gleision (1847). Saesneg oedd iaith nifer o'r ysgrifau am eu bod wedi eu hanelu at y Saeson yn bennaf, i amddiffyn anrhydedd Cymru a'r Gymraeg.[1]
Cyfansoddodd nifer o gerddi ar y mesurau caeth a rhydd hefyd, yn cynnwys yr awdl 'Adgyfodiad' a fu'n fuddugol yn yr Eisteddfod.[1]
Dylanwad a chofGolygu
Ar ddiwedd y 19g daeth yn un o arwyr gwladgar mudiad Cymru Fydd, diolch i waith Owen M. Edwards ac eraill yn dod a'i waith i sylw'r cyhoedd.
Mae'r ysgol gynradd yn Rhyd-y-main wedi ei henwi ar ei ôl, sef Ysgol Ieuan Gwynedd.
LlyfryddiaethGolygu
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
- A Vindication of the Educational and Moral Conditions of Wales (1848)
- Bywyd Ieuan Gwynedd, ganddo ef ei hun (Cyfres y Fil, Caernarfon, 1900). Ysgrifau hunangofianol, detholiad o gerddi ac ysgrifau eraill, golygwyd gan O. M. Edwards.
Ceir casgliad o ysgrifau wedi eu golygu gan Brinley Roberts (Cyfres Llyfrau Deunaw, 1957).