Sefydlwyd Y Lle, Llanelli yn 2015, fel Canolbwynt Cymraeg ar gyfer tref Llanelli.[1] Mae'r 'Lle' yn cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr ac yn agor ei drysau gyda'r nos ac ar benwythnosau er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r iaith Gymraeg,dathlu diwylliant a hyrwyddo treftadaeth leol. Mae'r Lle wedi ei leoli ar Heol yr Hen Gastell, ac mae'n cynnig nifer o weithgareddau megis, stiwdio gymunedol, gorsaf radio, bar smwddis a stiwdio ffotograffiaeth. Mae'r Lle hefyd yn trefnu nifer o weithgareddau o fewn dalgylch tref Llanelli ac mae'r adeilad yn cael ei ddefnyddio ar gyfer clybiau ieuencid a recordio artistiaid er mwyn hybu'r defnydd o'r Gymraeg.

Y Lle, Llanelli

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1.  Y Lle - Llanelli. Llywodraeth Cymru. Adalwyd ar 20 Ionawr 2018.