Glannau Dyfrdwy
Cytref yng Nghymru
Ardal arfordirol yng ngogledd-ddwyrain Cymru, ar lan Afon Dyfrdwy ac o gwmpas ei haber yw Glannau Dyfrdwy (Saesneg Deeside). Yn ddaearyddol mae'n cynnwys arfordir gorllewinol penrhyn Cilgwri yng Ngogledd-orllewin Lloegr.
Math | tref bost, Cytref |
---|---|
Enwyd ar ôl | Afon Dyfrdwy |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir y Fflint |
Gwlad | Cymru Lloegr |
Cyfesurynnau | 53.2°N 3°W |
Mae'r ardal yn gytref ddiwydiannol o drefi a phentrefi yn Sir y Fflint ger y ffin rhwng Cymru a Lloegr, ac yn gorwedd ar ddwy ochr y darn camlasedig o Afon Dyfrdwy sy'n llifo o Gaer i mewn i Aber Dyfrdwy. Mae'r aneddiadau hynny'n cynnwys Cei Connah, Shotton, Queensferry, Aston, Garden City, Sealand, Brychdyn, Bretton, Penarlâg, Ewlo, Mancot, Pentre, Saltney a Sandycroft.