Y Peiriant Pigmi
Casgliad o storiau byrion gan Owain Owain yw Y Peiriant Pigmi. Cyhoeddwyd yn 1973 gan Wasg Gomer ac argraffwyd gan J. D. Lewis a'i Feibion, Llandysul. Ysgrifennwyd y gwaith yn ail hanner y 1960au a dechrau'r 70au.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Owain Owain |
Cyhoeddwr | Gwasg Gomer |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | Gorffennaf 1973[1] |
Pwnc | Amrywiol / Bywyd |
Argaeledd | allan o brint |
ISBN | 0850882095 |
Bu'r stori gynta yn y gyfrol hon yn arobryn yng nghystadleuaeth y stori fer yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor a'r cylch 1971. Yn ôl y beirniad, Kate Roberts, (gweler y broliant): "Alegori ddychanol ragorol wedi'i hysgrifennu mewn Cymraeg graenus... " a dywed yr awdur John Gwilym Jones fod yr awdur "wedi consurio yn hytrach na chofnodi... mae ffresni yn ei fynegiant sy'n ychwanegu at draddodiad y Stori Fer Gymraeg."
Bu'r storiau Lle Mae Clod yn Deilwng, Manglo, Hap a Damwain, Y Dwthwn, Pleserau a Gwerthoedd yn fuddugol yng nghystadleuaeth y fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Pantyfedwen yn 1972.