Y Proffwyd a’i Ddwy Jesebel
Nofel gan Gareth Miles yw Y Proffwyd a’i Ddwy Jesebel, a enillodd iddo wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2008.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Iaith | Cymraeg |
Mae Y Proffwyd a’i Ddwy Jesebel wedi ei gosod ym mwrlwm y diwygiad rhwng 1904 a 1905 yng Nghymru, ac mae'n ymdrin â pherthnasau y Diwygiwr Ivor Lewis gyda chyn-butain a gwraig weddw. Adroddir yr hanes o safbwynt W. T. Davies, gohebydd y South Wales Weekly News.