Gareth Miles

Awdur, dramodydd ac ymgyrchydd o Gymro

Awdur, dramodydd ac ymgyrchydd o Gymro oedd Gareth Miles (19 Ebrill 19386 Medi 2023).[1]

Gareth Miles
Ganwyd19 Ebrill 1938 Edit this on Wikidata
Caernarfon Edit this on Wikidata
Bu farw6 Medi 2023 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, athro, dramodydd Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg golygu

Fe'i ganwyd yng Nghaernarfon a'i fagu yn Waunfawr ond mae ei wreiddiau yn Mhontrhydyfen.[2] Roedd ganddo ddwy chwaer, Lisabeth a Gill. Mynychodd Brifysgol Bangor cyn mynd yn athro Ffrangeg a Saesneg yn Amlwch, Dyffryn Nantlle, ac Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam. Yn ddiweddarach ymgartrefodd ym Mhontypridd.[3]

Gyrfa golygu

Bu'n Drefnydd Cenedlaethol Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) ac roedd yn un o sefydlwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Bu'n awdur proffesiynol ers 1982. Llwyfanwyd dros ugain o ddramâu gwreiddiol a chyfieithiadau o'i eiddo.[4] Fe weithiodd hefyd fel sgriptiwr ar raglenni teledu gan gynnwys y cyfresi drama Pobol y Cwm, Coleg, a Dinas.

Enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn 2008 am Y Proffwyd a’i Ddwy Jesebel.

Bywyd personol golygu

Roedd yn briod a Gina ac roedd ganddynt tri o blant - Elen, Branwen ac Eiry.

Bu farw ar 6 Medi 2023, gartref gyda'i deulu. Cynhaliwyd ei angladd ar ddydd Gwener, 22 Medi 2023. Cafwyd gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Glyn Taf, Pontypridd am 12:45 â ddilynwyd gan dderbyniad yng Nghlwb y Bont, Pontypridd.[5]

Cyhoeddiadau golygu

Gwreiddiol golygu

 
Clawr Llafur Cariad

Addasiadau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Yr awdur, dramodydd ac ymgyrchydd iaith Gareth Miles wedi marw". newyddion.s4c.cymru. 2023-09-06. Cyrchwyd 2023-09-06.
  2. Gorau Arf Golygydd iolo wyn Wi/lliams. Cyhoeddwyr Y Lolfa.Td 347]
  3. "Sylfaenydd Cymdeithas yr Iaith, Gareth Miles, wedi marw". BBC Cymru Fyw. 2023-09-06. Cyrchwyd 2023-09-06.
  4. "Speaker Biographies - Swansea University". www.swansea.ac.uk. Cyrchwyd 2023-09-06.
  5. "The obituary notice of Gareth MILES". funeral-notices.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-09-08.