Am yr aderyn, gweler pâl. Am yr ardal yn Ymerodraeth Rwsia, gweler pâl gwladychiad.

Yn Iwerddon, llain arfordirol rhwng Dulyn a Dundalk lle bu cyfraith Lloegr yn rheoli oedd y Pâl (Gwyddeleg: An Pháil; Saesneg: The Pale). Sefydlwyd yn y ddeuddegfed ganrif yn dilyn y goresgyniadau Eingl-Normanaidd cyntaf, ac amrywiodd ei ffiniau cryn lawer yn ôl llanw a thrai y grym Seisnig. Yn y drydedd ganrif ar ddeg roedd y rhanbarth yn cynnwys Dulyn, Louth, Meath, Kildare, a Kilkenny. Ond erbyn dechrau'r unfed ganrif ar bymtheg ciliodd i ardal llai na 50 km o led. Wrth i'r Tuduriaid atgyfnerthu'u grym yn Iwerddon yn yr 16g, cynyddodd y tir o dan gyfraith Lloegr yn gyson, felly erbyn yr ail ganrif ar bymtheg nid oedd y Pâl yn bodoli fel ardal benodol.

Baner Republic of IrelandEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.