Dulyn
Prifddinas Gweriniaeth Iwerddon a'i dinas fwyaf yw Dulyn (Gwyddeleg: Baile Átha Cliath; Saesneg: Dublin). Mae'r enw yn gyfieithiad o'r Wyddeleg "dubh linn" ("pwll du"). Mae wedi'i lleoli ar arfordir dwyreiniol Iwerddon, ar aber Afon Life ac yng nghanol Rhanbarth Dulyn. Fe'i sefydlwyd gan y Llychlynwyr yn 988 ac mae'n brifddinas Iwerddon ers yr Oesoedd Canol. Gweinyddwyd Teyrnas Iwerddon ac yna Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon o Gastell Dulyn sydd o fewn hen ardal hanesyddol y ddinas. Mae'r Castell nawr yn ganolfan weinyddol a seremonïol o bwys i Weriniaeth Iwerddon.
Arwyddair | Obedientia Civium Urbis Felicitas |
---|---|
Math | dinas fawr, dinas weinyddol yng Ngweriniaeth Iwerddon, y ddinas fwyaf, dinas â phorthladd |
Poblogaeth | 592,713 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Paul McAuliffe |
Gefeilldref/i | Vilnius, San Jose, Barcelona, Lerpwl, Beijing, Milan, Budapest, Yambol, Châteaudun, Podgorica, Bratislava, Guadalajara, Cirebon, Kyiv, Tbilisi |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Dulyn, Gweriniaeth Iwerddon |
Gwlad | Gweriniaeth Iwerddon |
Arwynebedd | 114,990,000 m² |
Uwch y môr | 20 ±1 metr |
Gerllaw | Afon Life, Môr Iwerddon, Camlas Royal, Afon Dodder |
Cyfesurynnau | 53.3497°N 6.2603°W |
Cod post | D1-18, 20, 22, 24, D6W, D1-18, 20, 22, D6W |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | office of the Lord Mayor of Dublin |
Corff deddfwriaethol | legislative body of Dublin City Council |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Lord Mayor of Dublin |
Pennaeth y Llywodraeth | Paul McAuliffe |
Erbyn heddiw, rhestir y ddinas fel y degfed ar Fynegai Canolfannau Ariannol y Byd ac mae ei phoblogaeth yn tyfu gyda'r cyflymaf yn Ewrop. Mae Dulyn yn ganolbwynt hanesyddol a diwylliant cyfoes Iwerddon, yn ogystal â bod yn ganolfan fodern ar gyfer addysg, y celfyddydau, yr economi a diwydiant. Mae'n ganolfan weinyddol Swydd Dulyn.
Roedd poblogaeth y ddinas weinyddol yn 505,739 yn ôl cyfrifiad 2006, ond roedd poblogaeth yr ardal drefol gyfan, yn cynnwys y maestrefi gerllaw, yn 1,186,159.
Diwylliant
golyguLlenyddiaeth, theatr a'r celfyddydau creadigol
golyguMae gan y ddinas hanes llenyddol byd-eang, gan gynhyrchu nifer o lenorion blaenllaw gan gynnwys William Butler Yeats, George Bernard Shaw a Samuel Beckett. Mae ysgrifenwyr a dramodwyr o Ddulyn yn cynnwys Oscar Wilde, Jonathan Swift a chrewr Dracula, Bram Stoker. Er hynny, efallai fod y ddinas yn fwyaf adnabyddus fel lleoliad prif weithiau James Joyce. Mae Dubliners yn gasgliad o straeon byrion gan Joyce am ddigwyddiadau a chymeriadau sy'n nodweddiadol o drigolion y ddinas ar ddechrau'r 20g. Lleolir ei waith enwocaf hefyd, Ulysses hefyd yn Nulyn ac mae'n llawn manylion cyfoes. Mae llenorion cydnabyddedig eraill o'r ddinas yn cynnwys J.M. Synge, Seán O'Casey, Brendan Behan, Maeve Binchy, a Roddy Doyle. Ceir llyfrgelloedd ac amgueddfeydd lleynyddol mwyaf Iwerddon yn Nulyn, gan gynnwys Amgueddfa Argraffu Cenedlaethol Iwerddon a Llyfrgell Genedlaethol Iwerddon.
Ceir nifer o theatrau hefyd yng nghanol y ddinas, a daeth nifer o actorion byd enwog o fyd y theatr yn Nulyn. Maent yn cynnwys Noel Purcell, Brendan Gleeson, Stephen Rea, Colin Farrell, Colm Meaney a Gabriel Byrne. Y theatrau amlycaf yw'r Gaiety yr Abaty, yr Olympia a'r Gate. Mae'r Gaiety yn arbenigo mewn cynyrchiadau sioe gerdd ac opera. Sefydlwyd yr Abaty ym 1904 gan griw a oedd yn cynnwys Yeats gyda'r nod o hyrwyddo dawn llenyddol Gwyddelig. Aeth y grŵp ymlaen i ddarparu rhai o lenorion enwocaf y ddinas, megis Synge, Yeats ei hun a George Bernard Shaw. Sefydlwyd Theatr y Gate ym 1928 er mwyn hyrwyddo gweithiau arloesol Ewropeaidd ac Americanaidd. Y theatr fwyaf yw Neuadd Mahony yn Yr Helix ym Mhrifysgol Dinas Dulyn yn Glasnevin.
Mae Temple Bar, ar lan deheuol Afon Life, yn gartref i’r Canolfan Ffotograffiaeth Gweddelig, Canolfan Plant yr Ark, Institiwt Ffilm Gwyddelig, Y Ffatri Botwm, Canolfan Amlgyfryng yr Arthouse, Oriel a Stiwdios Temple Bar a Theatr Newydd Dulyn. Gyda’r nos mae tafarndai’r ardal yn denu twristiaid gyda chanu gwerin.[1] Cynhelir gŵyl werin, sef Tradfest ym mis Ionawr.[2]
Hefyd lleolir Llyfr Kells, llawysgrif byd enwog ac enghraifft o gelf Ynysol a gynhyrchwyd gan fynachod Celtaidd yn 800 A.D. yng Ngholeg y Drindod. Mae Llyfrgell Chester Beatty hefyd yn gartref i gasgliad enwog o lawysgrifau, paentiadau bychain, argraffiadau, darluniau, llyfrau prin a gwrthrychau addurniedig a gasglwyd gan y miliwnydd Americanaidd (a dinesydd Gwyddelug anrhydeddus) Syr Alfred Chester Beatty (1875-1968). Dyddia'r casgliadau o 2700 C.C. ymlaen ac maent yn dod o Asia, y Dwyrain Canol, Gogledd America ac Ewrop. Yn aml, arddangosir gwaith gan arlunwyr lleol o amgylch St. Stephen's Green, sef prif barc gyhoeddus yng nghanol y ddinas. Yn ogystal â hyn, ceir nifer o orielau celf o amgylch y ddinas, gan gynnwys yr Amgueddfa Wyddelig o Gelf Modern, Oriel Bwrdeistrefol Hugh Lane, Oriel Douglas Hyde a'r Academi Hibernian Frenhinol.
Lleolir tair cangen o Amgueddfa Genedlaethol Iwerddon yn Nulyn; Archeoleg yn Stryd Kildare, Celf ac Hanes Addurniedig yn Collins Barracks a Hanes Naturiol yn Stryd Merrion Street.
Lleolir Áras an Uachtaráin, preswylfa Arlywydd Iwerddon ym Mharc Phoenix anferth o fewn y ddinas.
Cludiant
golyguBysiau
golyguMae Dublin Bus a chymniau eraill yn cynnig gwasanaethau bws.
Trenau
golyguMae trenau DART yn mynd o Malahide a Howth i Greystones, yn pasio trwy ganol y ddinas. Hefyd, mae trenau Iarnród Éireann yn cysylltu’r maestrefi â chanol ddinas.
Tramiau
golyguMae tramiau LUAS yn mynd o’r maestrefi deheuol i ganol y ddinas.[3]
Enwogion
golygu- Spranger Barry (1719-1777), actor
- Richard Brinsley Sheridan (1751-1816), dramodydd a gwleidydd
- Sheridan Le Fanu (1814-1873), awdur
- William Butler Yeats (1865-1939), awdur
- W. T. Cosgrave (1880-1965), gwleidydd
- James Joyce (1882-1941), awdur
- Elizabeth Bowen (1899-1973), nofelydd
- Wilfrid Brambell (1912-1985), actor
- Conor Cruise O'Brien (1917-2008), gwleidydd ac ysgolhaig
- Gabriel Byrne (g. 1950), actor
- Bono (g. 1960), canwr
- Graham Norton (g. 1963), digrifwr
- Stephen Gately (1976-2009), canwr
- Elizabeth Griffith, actores o G18
- Robbie Keane (g. 1980), chwaraewr pêl-droed
Chwaraeon
golyguMae'r ddinas yn gartref i dîm rygbi Leinster sy'n chwarae yn y Pro14. Maent yn chwarae yn Stadiwm yr RDS.
Mae'n hefyd yn gartref i sawl tîm pêl-Droed yn Uwch Gynghrair Gweriniaeth Iwerddon, megis Bohemians, St Patrick’s Athletic, Shamrock Rovers a University College Dublin.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Gwefan ireland.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-01-09. Cyrchwyd 2019-03-13.
- ↑ "Gwefan Tradfest". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-03-01. Cyrchwyd 2019-03-13.
- ↑ Gwefan Cyngor y ddinas
- ↑ Tudalen Uwch Gynghrair Iwerddon ar wefan BBC, 13 Chwefror 2019