Soned gan y prifardd Mererid Hopwood yw Y Sbectol Hud.

Poster Rhys Aneurin o'r gerdd "Y Sbectol Hud" gan Mererid Hopwood

Yn y gerdd hon, mae'r bardd yn ein hannog i ddefnyddio ein dychymyg i weld y byd o'r newydd. Mae'r byd modern yn llawn o bethau sy'n ein rhwystro rhag gweld harddwch naturiol y byd o'n cwmpas. Er mwyn i ni allu gweld rhyfeddodau'r byd mae'r bardd am i ni wisgo "sbectol" ein dychymyg ac mae honno'n "Sbectol Hud

 
Wicillyfrau
Mae gan Wicilyfrau gwerslyfr neu lawlyfr ar y pwnc yma:

Soned yw'r gerdd hon wedi'i rhannu'n ddau bennill, sef yr wythawd (yr wyth llinell gyntaf) a'r chwechawd (y chwe llinell olaf). Mae'r volta (sef y rhaniad rhwng yr wythawd a'r chwechawd mewn soned) yn amlwg iawn yn y gerdd hon gan fod y bardd wedi rhannu'r soned yn ddau ran rhwng yr wythawd a'r chwechawd.

Dolenni allanol

golygu