Mererid Hopwood

actores

Bardd o Gymraes yw Mererid Hopwood (ganwyd 1964). Hi oedd y ferch gyntaf erioed i ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol, a gwnaeth hynny yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dinbych 2001.[1] Mae'n brifardd dwbl ac yn brif lenor ac mae galw mawr amdani i ddarlithio a chynnal gweithdai barddoni.

Mererid Hopwood
Mererid Hopwood, Cadeirydd y cyfarfod Dyfodol i’r Iaith, Yr Egin, Caerfyrddin (cropped).jpg
GanwydChwefror 1964 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd, cyflwynydd teledu, ysgrifennwr, darlithydd Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysgGolygu

Fe'i ganwyd a magwyd yng Nghaerdydd ond roedd ei theulu yn hannu o Sir Benfro. Mynychodd ysgolion Bryntaf a Llanhari. Graddiodd mewn Almaeneg a Sbaeneg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth ac aeth ymlaen i gwblhau doethuriaeth yng Ngholeg y Brifysgol, Llundain.[2]

GyrfaGolygu

Cychwynnodd ddarlithio yn adrannau'r Gymraeg ac Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Abertawe. Bu'n bennaeth ar swyddfa gorllewin Cymru Cyngor y Celfyddydau cyn ymadael i weithio fel awdur a darlithydd ar ei liwt ei hun. Bu hefyd yn Athro Ieithoedd a'r Cwricwlwm Cymreig ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Roedd yn Fardd Plant Cymru yn 2005.

Yn Hydref 2020 cafodd ei phenodi'n Athro’r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth gan ddechrau yn y swydd ar ddechrau mis Ionawr 2021.[3]

Bywyd personolGolygu

Mae'n byw yn Llangynnwr, Sir Gaerfyrddin gyda'i gŵr Martin ac mae ganddynt tri plentyn - Hanna, Miriam a Llewelyn.

LlyfryddiaethGolygu

BarddoniaethGolygu

RhyddiaithGolygu

  • O Ran (Gwasg Gomer, 2008)

Llyfrau oedolionGolygu

Llyfrau plantGolygu

Gwobrau ac anrhydeddauGolygu

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. Merch yn ennill Y Gadair am y tro cyntaf , BBC Cymru Fyw, 10 Awst 2001. Cyrchwyd ar 22 Gorffennaf 2018.
  2. Mererid yn cipio'r Goron , BBC Cymru, 4 Awst 2003. Cyrchwyd ar 22 Gorffennaf 2018.
  3.  Prifardd yn cael ei phenodi’n Athro’r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth. Prifysgol Aberystwyth (13 Hydref 2020).