Y Swper Olaf (Leonardo)

murlun gan Leonardo da Vinci

Llun gan Leonardo da Vinci yw Y Swper Olaf. Gyda'r Mona Lisa, mae'n un o weithiau enwocaf Leonardo.

Y Swper Olaf
Eidaleg: Il Cenacolo
ArlunyddLeonardo da Vinci
Blwyddyn1495–1498
MeunyddPaent tempera ar blastar Paris, pyg a mastig
Maint460 cm × 880 cm ×  (180 in × 350 in)
LleoliadSanta Maria delle Grazie, Milan

Mae'r llun yn furlun yn hen ffreutu abaty Dominicanaidd Santa Maria delle Grazie, ym Milan. Peintiodd Leonardo'r llun, sy'n darlunio'r Swper Olaf o'r Testament Newydd, rhwng 1495 a 1498, ar gais Ludovico Sforza, arglwydd Milan. Mae'n 460 x 880 cm o ran maint.

Yn rhannol oherwydd presenoldeb y llun hwn, mae'r abaty wedi ei ddynodi yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.

Eginyn erthygl sydd uchod am gelf. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.