Mona Lisa
peintiad gan Leonardo da Vinci
Llun gan Leonardo da Vinci sydd yn awr yn amgueddfa'r Louvre ym Mharis yw'r Mona Lisa, weithiau Monna Lisa (Eidaleg: La Gioconda; Ffrangeg: La Joconde). Mae'n lun mewn olew, 77 × 53 cm, ac fe'i harluniwyd rhwng 1503 a 1507.
![]() | |
Enghraifft o: | paentiad ![]() |
---|---|
Crëwr | Leonardo da Vinci ![]() |
Deunydd | paent olew, poplar panel ![]() |
Gwlad | Gweriniaeth Fflorens ![]() |
Dechrau/Sefydlu | c. 1500s ![]() |
Genre | portread ![]() |
Lleoliad | Salle des États, Louvre ![]() |
Perchennog | gwladwriaeth Ffrainc ![]() |
Prif bwnc | Lisa del Giocondo ![]() |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus ![]() |
Gwladwriaeth | Ffrainc ![]() |
Rhanbarth | Paris ![]() |
![]() |
Ystyrir y Mona Lisa yn gyffredinol yn arlunwaith enwocaf y byd; mae'r wên enigmatig yn arbennig o enwog. Credir mai Lisa del Giocondo oedd y ferch a ddangosir yn y llun. Wedi marwolaeth Leonardo, daeth y llun i feddiant brenin Ffrainc, ac yn ystod y 16g roedd ar furiau Castell Fontainebleau. Am gyfnod, bu yn ystafell wely Napoleon Bonaparte, ond treuliodd amser mewn seler hefyd. Ers y 18g mae wedi bod yn y Louvre. Cafodd y llun ei ddwyn yn 1911, ond cafwyd hyd iddo yn yr Eidal.