Yaoundé
Yaoundé (neu Yaunde) yw prifddinas Camerŵn yng ngorllewin Canolbarth Affrica. Mae ganddi boblogaeth o 1,430,000 (Cyfrifiad 2004).
![]() | |
Math |
anheddiad dynol, dinas â miliynau o drigolion ![]() |
---|---|
| |
Poblogaeth |
2,440,462 ![]() |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser |
UTC+01:00 ![]() |
Gefeilldref/i |
Udine, Shenyang ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Centre ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
180 ±1 km² ![]() |
Uwch y môr |
764 metr ![]() |
Cyfesurynnau |
3.8578°N 11.5181°E ![]() |
![]() | |
HanesGolygu
Sefydlwyd y ddinas gan fasnachwyr Almaenig yn 1888 pan oedd y wlad ym meddiant yr Almaen. Cafodd Yaoundé ei gwneud yn brifddinas yn 1922.
Ac eithrio cyfnod byr, yn ystod yr Ail Ryfel Byd pan feddianwyd y wlad gan Wlad Belg, mae hi wedi aros yn brifddinas y wlad ers hynny. Yaoundé yw'r ail ddinas o ran maint erbyn heddiw, ar ôl Douala.
EconomiGolygu
Mae diwydiannau Yaoundé yn cynnwys sigaretau, cynnyrch llaeth, bragdai, clai, cynnyrch gwydr, a phren. Mae Yaoundé yn ganolfan dosbarthu ranbarthol ar gyfer coffi, cacao, copra, siwgr, a rwber.