Yma y Mae Fy Lle- Gwyn Thomas

Cerdd Gymraeg gan Gwyn Thomas yw Yma y Mae Fy Lle. Mynega'r bardd ymlyniad dwfn o berthyn at ddarn o dir. Gwelwn nad lle o harddwch traddodiadol ydyw wrth ei ddisgrifio. Ardal laith, lwyd, a gwydn. Cawn ddarlun o le sy'n llwm ei dirwedd.

Lleolir ardal Gwyn Thomas wrth droed y Moelwyn sef ardal chwarelyddol. Gwelwn ddylanwad y chwarel yn drwm ar ei waith. Neges y gerdd yw bod y dylanwadau sydd ar berson yn eu ieuenctid yn parhau drwy gydol bywywd.

Yn y gerdd hon, mynega Gwyn Thomas ei ymdeimlad at dir neu ardal sy’n bwysig iddo. Trafoda ardal ei eni a'i fagu, ac er nad yw’n enwi yr ardal, gwyddom ei fod wedi ei fagu yn ardal wrth droed y Moelwyn, sy’n ardal chwarelyddol. Caiff y gerdd yma, yn ogystal â nifer o’i gerddi eraill ei ddylanwadu gan waith y chwareli.  

Neges y gerdd yma yw bod y dylanwadau cynnar ar fywyd person yn ei ieuenctid yn parhau ac yn cael effaith arnynt drwy gydol gweddill ei fywyd.

Mesur y Gerdd

golygu

Cerdd rydd yw 'Yma y Mae Fy Lle', gan nad oes ganddi fesur nac odl pendant. Gan nad oes defnydd reolaidd o odli yn y gerdd, mae’r parau geiriau sy’n cael eu hodli, megis; ‘ucheldir/gylfinir’, ‘gleision/ffrwydron’ yn fwy effeithiol ac yn rhoi fwy o bwyslais ar linellau neu eiriau arbennig yn y gerdd. Mae arwyddocâd yr odl yn cynyddu erbyn diwedd y gerdd, a chawn ergyd bwysig yn y cwpled olaf gyda odl ar y gair ‘fy mod’, sef geiriau fwyaf arwyddocaol y gerdd. Mae’r odl yma’n cael ei ddefnyddio i gyfleu neges y bardd, sef bod y pethau sy’n dylanwadu person yn ei ieuenctid yn effeithio arnynt am weddill ei oes, a hefyd yn pwysleisio yr ymdeimlad o berthyn sydd gan y bardd â'i fro.  

Cynnwys y Gerdd

golygu

Pennill 1

golygu

Cawn gyffelybiaeth yn syth ar ddechrau’r gerdd, ’Fel, yn annileadwy’,a phrofa hyn yn syth I'r darllenydd bd y pethau sydd wedi ei ddylanwadu yn ystod ei blentyndod yn bethau sy’n amhosibl I'w dileu o’i fywyd. Yn yr agoriad hwn, mae’n amlwg fod gwaith y bardd yn cael ei ddylanwadu gan ei ddylanwadau o’i blentyndod, a gwelwn yn syth fod gan y bardd feddwl mawr o ardal ei febyd. Yn syth wedyn, defnyddia Gwyn Thomas hen ofergoel ‘Ar fodolaeth cywion gwyddau’ i gyfleu’r dylanwad a gafodd yr ardal arno. Cyfeiria at yr ofergoel yma gan fod gwyddau’n adar sy’n cael eu effeithio’n ddyfn gan y pethau cyntaf y maent yn eu gweld. Yma felly, ceisia’r bardd gymharu ei hun I'r cywion gwyddau, gan fod ei blentyndod a’r pethau a welodd wedi effeithio arno yntau. Mynega’r bardd mai profiadau cyntaf bywyd yw’r rhai sy’n effeithio ddyfnaf arnom. Hefyd yn y pennill  cyntaf, mae’r cyfeiriad at y ‘llethrau hyn sy’n esgyn fry’ yn son am y chwareli, a dyweda fod y ‘llethrau’ yma wedi ‘marcio ynof’. Pwysleisia hyn effaith y diwydiant,a bod y chwareli yn yr ardal yn rhan ohono.

Pennill 2

golygu

Drwy gydol yr ail bennill, ailadroddir y bardd y gair ‘yma’. Dyma angor y gerdd gyfan. Yn y pennill hwn, mae ailadrodd y gair ‘yma’ yn dangos fod y bardd yn canolbwyntio ar un ardal benodol, ac yn cyfeirio at yr un lle drwy’r holl gerdd. Mae llinell cyntaf y pennill yr un peth â theitl y gerdd, ond bod cymal ychwanegol yn y frawddeg, ‘yma, yn y mawnogydd, y mae fy lle’.  Disgrifiad negyddol, amhleserus a rydd y bardd I'r ardal, gan mai tir gwlyb yw’r ‘mawnogydd’,  a chyfeirir at y ‘mannau llaith’ a’r ‘meini llwydion’. Er hyn, mae’r bardd dal fel petai’n addoli’r ardal, sy’n amlwg yn rhywle pwysig iddo. Mae’r cyffelybiaeth rhwng y  ‘meini llwydion’ sydd ‘fel llygadau’r cynfyd’, yn dangos bod y meini wedi bod yn dyst I'r cyfan ac yna as creu’r byd, a dangosa hyn pa mor hynafol yw’r ardal.

Pennill 3

golygu

Yn union fel yr ail bennill, mae’r trydydd pennill yn dechrau gyda’r gair ‘yma’. ‘Yma, yn y gwair gwydn, y mae fy lle’. Gan ddefnyddio’r cyflythreniad ‘gwair gwydn’, mae’r bardd yn cyfleu’r argraff fod y tir ymhell o fod yn hawdd I'w drin gan nad yw’n wair esmwyth, a chawn argraff fod y tir yn yr ardal yn galed, gan fod y gwair wedi gorfod addasu er mwyn goroesi hinsawdd anghynnes ac anodd. Gwelwn hefyd ddylanwad gwaith y chwarelwyr ar yr ardal wrth I Gwyn Thomas ddefnyddio ymadroddion fel ‘yn nhrybestod’ , ‘a ddarniwyd’, ‘â ffrwydron’.Gan ddefnyddio’r ymadroddion yma, cawn argraff fod gwaith y chwarelwyr yn weithredoedd treisgar eu naws. Cawn wrthgyferbyniad rhwng ‘a ddarniwyd, yn ddethau’ sy’n cyfeirio at waith y chwarelwyr a oedd yn defnyddio ffrwydron yn fwriadol I chwalu’r llechi. Ystyr ‘ddarniwyd’ yw rhywbeth sydd wedi ei dorri, ac ystyr ‘yn ddethau’ yw rhywbeth taclus, ac mae hyn yn pwysleisio’r grefft ynn ngwaith y chwarelwr.

Pennill 4

golygu

Ym mhennill olaf y gerdd, cyfeiria’r bardd eto at deitl y gerdd, ‘Yma y Mae Fy Lle’, ac mae hyn yn dangos ei ymdeimlad o berthyn tuag at yr ardal. Ailadroddir y gair ‘pethau’ yn y bennill yma er mwyn pwysleisio’r holl bethau sy’n bwysig iddo, a defnyddia Gwyn Thomas ansoddeiriau fel ‘hen, Cymraeg, elfennig’ er mwyn cyfleu ei deimladau at yr ardal. Mae’r ffaith fod y bardd yn disgrifio’r ardal gan ddefnyddio’r gair ‘pethau’ yn awgrymu na allai rhoi ei fys ar y rheswm pam fod ei fro mor arbennig iddo. Mae’r ardal yn bopeth iddo ac felly mae’n anodd iddo roi ei deimladau fewn i eiriau. Pwysleisia’r pennill clo neges y gerdd, sef fod y bardd yn teimlo perthynas â'r lle hwn, ac y bydd ei fro yn aros yn rhan ohono am byth.

Cyfeiriadau

golygu