Asgetigiaeth
(Ailgyfeiriad o Ymgosbaeth)
Cyfeiria asgetigiaeth at ffordd o fyw a nodweddir gan ymataliad rhag pleserau bydol, yn amlach na pheidio er mwyn cyflawni amcanion ysbrydol. Mae nifer o draddodiadau crefyddol, megis Cristnogaeth, Islam, Hindwaeth a Bwdhaeth yn hyrwyddo ymataliad o ran gweithredoedd corfforol a meddyliol. Dysg y crefyddau hyn bod boddhad dyfnach i'w gael y tu hwnt i bleserau cnawdol ac felly trwy ymgadw rhag y pleserau cyffredin, bydol hyn y gellir ennill heddwch mewnol.