Ynys Padrig
ynys tua un cilometr oddi ar arfordir gogleddol Ynys Môn
(Ailgyfeiriad o Ynys Badrig)
Ynys tua un cilometr oddi ar arfordir gogleddol Ynys Môn yw Ynys Padrig (Saesneg: Middle Mouse). Yr ynys yma yw pwynt mwyaf gogleddol Cymru.
Math | ynys |
---|---|
Poblogaeth | 0 |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 0.0178 km² |
Gerllaw | Môr Iwerddon |
Cyfesurynnau | 53.435°N 4.4372°W |
Hyd | 0.11 cilometr |
Ar lanw isel, mae'r ynys tua 207 medr o hyd a 110 medr o led, gydag arwynebedd o 3.7 acer. Saif y pwynt uchaf arni 16 medr uwch lefel y môr.
Cysylltir yr ynys a Sant Padrig, nawddsant Iwerddon. Yn ôl y chwedl, llongddrylliwyd ef ar yr ynys yma. Nofiodd i'r tir mawr, ac yno sefydlodd eglwys Llanbadrig.
Rhoddwyd yr ynys ar werth yn 2005.
Gweler hefyd
golyguDolenni allanol
golygu- Gwerthu'r ynys, gwefan BBC Cymru