Ynys Catrin
Ynys lanw yn Sir Benfro a gysylltir â Dinbych-y-Pysgod gan y traeth ar lanw isel yw Ynys Catrin (Saesneg: St Catherine's Island).[1]
Math | ynys lanwol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinbych-y-pysgod |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 0.01 km² |
Uwch y môr | 34 metr |
Gerllaw | Bae Caerfyrddin |
Cyfesurynnau | 51.6706°N 4.6922°W |
Hyd | 0.2 cilometr |
Mae'r ynys yn gartref i gaer a godwyd i amddiffyn Doc Penfro ac a gwblheuwyd yn 1870. Yn 1907, gwerthwyd yr ynys i berchennog preifat am £500. Mae gan Gaer Ynys Catrin hen stafell arfau a ddefnyddwyd i storio 444 casgen o bowdr gwn. Ar un adeg defnyddid y gaer fel sŵ.
"Craig y Santes Catrin" yw'r enw ar lafar yn lleol.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ British Place Names; adalwyd 30 Hydref 2021
Dolen allanol
golygu- (Saesneg) Cymdeithas Ddinesig Dinbych-y-Pysgod - Ynys Catrin Archifwyd 2007-04-03 yn y Peiriant Wayback