Ynys Gafr, Talaith Efrog Newydd

Mae Ynys Gafr yn ynys fechan ar Afon Niagara, ar ben Rhaeadr Niagara, rhwng y Rhaeadr Fêl Priodasol a'r Rhaeadr Pedol. Yn weinyddol, mae'n rhan o Ddinas Niagara yn Nhalaith Efrog Newydd, ac yn rhan o Barc Genedlaethol Rhaeadr Niagara. Mae pontydd rhwng yr ynys a thir mawr y ddinas.

Ynys Gafr, Talaith Efrog Newydd
Mathynys mewn afon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolNiagara Falls State Park Edit this on Wikidata
SirNiagara Falls, Efrog Newydd Edit this on Wikidata
GwladBaner UDA UDA
Uwch y môr558 troedfedd Edit this on Wikidata
GerllawAfon Niagara Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau43.0806°N 79.0667°W Edit this on Wikidata
Map
Yr ynys o Ganada yn y gaeaf

Ar un adeg, cadwyd geifr ar yr ynys gan John Stedman. Swydd Stedman efo'r fyddin Brydeinig oedd trefnu cludiant nwyddau heibio'r rhaeadr yn ystod y 18g. Hawliodd o bod y llwyth Seneca wedi rhoi'r ynys iddo yn 1764. Cymerodd dalaith Efrog Newydd yr ynys oddi wrtho ym 1801.[1]

Rhoddwyd i'r ynys yr enw "Ynys Iris", enw duwies Groegaidd yr enfys, ond doedd yr enw ddim yn boblogaidd.[1]

Cyfeiriadau golygu