Rhaeadr enwog sy'n gorwedd ar y ffin rhwng Canada a'r Unol Daleithiau yw Rhaeadr Niagara (Saesneg:Niagara Falls; Ffrangeg: Chutes du Niagara). Mae'r enw 'Niagara' yn tarddu o'r gair Iroquois 'Onguiaahra' sydd yn golygu 'culfor'[1].

Rhaeadr Niagara
Mathrhaeadr, atyniad twristaidd, horseshoe waterfall Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolAfon Niagara Edit this on Wikidata
SirEfrog Newydd, Ontario Edit this on Wikidata
GwladBaner Canada Canada
Baner UDA UDA
Cyfesurynnau43.08°N 79.071°W Edit this on Wikidata
Map

Mae'r rhaeadr, sydd mewn gwirionedd yn gyfres o 3 rhaeadrau cysylltiedig, ar Afon Niagara rhwng Llyn Erie a Llyn Ontario. Ar ei mwyaf mae'n 43m o uchder. Darganfuwyd y rheadr ym 1678 gan Ffrancwr, Tad Louis Hennepin.[2]. Llifa tua 150,000 o alwyni o ddŵr dros y rhaeadrau Americanaidd, a 600,000 o galwyni dros y rhaeadr Ganadiaidd[1] er ailgyfeiriwyd rhwng 50 a 75 y cant o'r dŵr i orsafoedd pŵer yn hytrach na dros y rhaeadrau. Parc Genedlaethol Rhaeadr Niagara yw'r hynaf yn yr Unol Daleithiau[3]

Ceir dwy ddinas o'r enw Niagara Falls, yn wynebu'i gilydd dros yr afon, un ohonynt yn nhalaith Efrog Newydd a'r llall yn nhalaith Ontario, yng Nghanada. Cynhelir teithiau yn y cwch 'Maid of the Mist' islaw'r rhaeadr, ar ochr yr Unol Daleithiau.

Dyma rigwm T. H. Parry-Williams a gyfansoddodd ar ymweliad â'r llecyn ar ddechrau'r 1930au:

'Roedd enfys fore ar y tawch a'r stŵr
Yng ngwynder dymchwel disgynfa'r dŵr,
A'm llygaid innau'n ei chael yn eu tro
Yn 'sgytwad na chollir o gorff na cho'.
Ysigol yw gwyrthiau'r ddaear ar ddyn
Pan fo hwnnw ar daith gydag ef ei hun.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Gwefan niagarafallslive
  2. "Tudalen we Parc Genedlaethol Niagara". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-12-02. Cyrchwyd 2014-11-26.
  3. "Tudalen 'fun facts' ar wefan y rhaeadr (Unol Daleithiau)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-12-13. Cyrchwyd 2014-11-26.

Gweler hefyd golygu

Dolenni allanol golygu