Ynys Gifftan

ynys lanwol yng Nghymru

Ynys fechan yn aber afon Dwyryd, Gwynedd, yw Ynys Gifftan. Uchder ei phwynt uchaf yw 39m a'i hyd yw tua 400m. Gorwedd ar ochr ddeheuol y Traeth Bach tua milltir i'r de o Benrhyndeudraeth, ger Portmeirion.

Ynys Gifftan
Mathynys lanwol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9125°N 4.0822°W Edit this on Wikidata
Map

Does neb yn byw ar yr ynys heddiw ond bu pobl yn ffermio yno yn y gorffennol. Ynys lanw ydyw, a gellir ei chyrraedd pan fo'r llanw allan ar hyd llwybr cyhoeddus dros y traeth, ond rhaid cymryd gofal. Mae'n ynys goediog a chreigiog gyda phorfa defaid.

Ynys Gifftan

Dolenni allanol golygu