Ynys fechan oddi ar arfordir Llŷn yng Ngwynedd yw Ynys Gwylan-fawr. Saif rhyw 2.5 km i'r de-ddwyrain o bentref Aberdaron a rhyw 1 km i'r de o Drwyn y Penrhyn. Saif ynys fechan arall, Ynys Gwylan-fach fymryn i'r de-orllewin o Ynys Gwylan-fawr.

Ynys Gwylan-fawr
Mathynys Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.78333°N 4.7°W Edit this on Wikidata
Map

Roedd y ddwy ynys yn perthyn i Ystad Plas Nanhoron, ac roedd yn arferiad gan y teulu gyfeirio'n ysmala at ddwy ynys Gwylan fel "the Empire overseas".

Nid oes neb yn byw ar yr ynys, sy'n warchodfa adar. Ceir nifer o rywogaethau o adar môr yn nythu yma, yn fwyaf arbennig y Pâl.

Ynysoedd Gwylan-fawr a Gwylan-fach, o Aberdaron
Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato