Pentref glan môr a chymuned yng ngorllewin Llŷn, Gwynedd, yw Aberdaron ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Fel y pentref agosaf at Ynys Enlli yr oedd yn gyrchfan bwysig i bererinion yn yr Oesoedd Canol. Sefydlwyd clas yno yn Oes y Seintiau.

Aberdaron
Mathcymuned, pentref Edit this on Wikidata
Poblogaeth965, 897 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd4,770.68 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.808°N 4.71°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000042 Edit this on Wikidata
Cod OSSH173268 Edit this on Wikidata
Cod postLL53 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/au y DULiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map
Statws treftadaethHenebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion

Yr eglwys

golygu
 
Eglwys Sant Hywyn, Aberdaron

Mae rhannau o eglwys y plwyf, sydd wedi ei chysegru i Sant Hywyn, yn dangos enghreifftiau diddorol o waith o'r cyfnod Normanaidd, sy'n gysylltiedig â theyrnasiad Gruffudd ap Cynan yn ôl pob tebyg. Mae cofnod am Gruffudd ap Rhys o Ddeheubarth yn cael noddfa yno pan oedd Gruffydd ap Cynan yn ceisio'i ddal. Bu'r bardd R. S. Thomas yn ficer yma am rai blynyddoedd. Gŵr enwog arall fu'n gysylltiedig ag Aberdaron oedd Dic Aberdaron, yr ysgolhaig a'r crwydryn. Heb fod ymhell o'r pentref mae bryngaer fechan Castell Odo ar gopa Mynydd Ystum tua milltir o'r pentref.

Y môr a'r traeth

golygu

Datblygodd Aberdaron yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid gan greu problemau mawr gyda'r farchnad dai wrth i nifer gynyddol o ymwelwyr o'r tu hwnt i Glawdd Offa brynu tai i'w defnyddio fel tai haf. Ond mae'r diwydiant pysgota yn parhau yno hefyd, yn enwedig pysgota am grancod a chimychiaid. Gellir cael cwch i Ynys Enlli o Borth Meudwy, ryw filltir o'r pentref. Mae yna siop fach leol o'r enw Eleri Stores sydd yn gwerthu pethau pysgota ac hufen iâ.

Cyfrifiad 2011

golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Aberdaron (pob oed) (965)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Aberdaron) (695)
  
74.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Aberdaron) (668)
  
69.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Aberdaron) (157)
  
37.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Tywydd

golygu

Cafwyd storm ‘hanesyddol‘ a gwyntoedd eithriadol ym mis Rhagfyr 2013

Enwogion a phobl nodedig

golygu
  • Lewys Daron (fl. 1495–1530), bardd
  • Anne Griffith ("Hen Wraig Bryn Canaid", 1734–1821), ymarferydd meddygaeth gwerin
  • Dic Aberdaron (1780–1843), ieithgi
  • William Jones (1829–1904), ffermwr Moelfre, a dyddiadurwr. Mae‘r dyddiadur helaeth a adawodd yn ddogfen o fywyd y fferm a thywydd pob dydd Aberdaron ei gyfnod yn unigryw[4]
  • Siân Storws 'Meddyges' Bryn canaid, Defnyddio ffyrdd od o feddygyniaeth er engraifft gelod, blodau a fferlysiau.
  • R. S. Thomas (1913–2000), bardd, a oedd yn ficer yn Eglwys Sant Hywyn
  • Joni Gorni ("Sioni Gorni"), cariwr blawd, yn berchen a mul a chart

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Mae’r cofnodion am yr agweddau yma, a mwy, yn eu cyfanrwydd i’w gweld yma [1] ar wefan Prosiect Llên Natur