Ynys Kangaroo yw ynys drydedd fwyaf Awstralia, ar ôl Tasmania ac Ynys Melville. Fe'i lleolir yn nhalaith De Awstralia oddi ar arfordir canol de Awstralia. Mae rhannau o'r ynys yn ddeniadol iawn ac yn gartref i fywyd gwyllt gan gynnwys morloi.

Ynys Kangaroo
Mathynys Edit this on Wikidata
Poblogaeth4,250 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+09:30 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadCefnfor India Edit this on Wikidata
GwladBaner Awstralia Awstralia
Arwynebedd4,374 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr174 metr Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor India Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau35.8333°S 137.25°E Edit this on Wikidata
Hyd145 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Gorwedd yr ynys 112 cilometr i'r de-orllewin o Adelaide wrth y mynediad i Gwlff Saint Vincent. Yn ei phwynt agosaf i'r tir mawr mae'n 13 cilometr (8 milltir) o Benrhyn Jervis, ar drwyn Gorynys Fleurieu yn nhalaith De Awstralia. Hyd yr ynys yw 150 km (93 milltir) a'i lled rhwng 900 m (hanner milltir) a 57 km (35 milltir), gydag arwynebedd o tua 4,405 km² (tua 1,700 milltir sgwar). Mae ganddi arfordir o 540 km ac mae ei phwynt uchaf yn 307 metr (tua 1,000 troedfedd) uwch lefel y môr.

Creigiau rhyfeddol anferth ar Ynys Kangaroo
Eginyn erthygl sydd uchod am Awstralia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.