Ynys Rathlin
Ynys oddi ar arfordir Swydd Antrim, Gogledd Iwerddon yw Ynys Rathlin (Gwyddeleg: Reachlainn, Saesneg: Rathlin Island). Hi yw'r unig ynys a phoblogaeth arni yng Ngogledd Iwerddon; yn 2001 roedd y boblogaeth yn 75. Saif 6 milltir (10 km) o'r tir mawr, a dim ond 15.5 milltir (25 km) o ran agosaf Penrhyn Kintyre yn yr Alban.
Math | ynys |
---|---|
Poblogaeth | 150 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ynysoedd Prydain |
Lleoliad | Cefnfor yr Iwerydd |
Sir | Swydd Antrim |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 14.4 km² |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd |
Cyfesurynnau | 55.295°N 6.1975°W |
Hyd | 6.4 cilometr |
Mae fferi yn cysylltu'r ynys â thref Ballycastle ar y tir mawr. Dynodwyd yr ynys yn Ardal Gadwraeth Arbennig, ac mae degau o filoedd o adar y môr o wahanol rywogaethau yn nythu yma.
Rathlin oedd safle ymosodiad cyntaf y Llychlynwyr ar Iwerddon yn 795. Dywedir i Robert Bruce lochesu yma, ac yma mae ogof a adwaenir fel "Ogof Bruce", lle dywedir iddo weld y pryf copyn a'i ysbrydolodd i barhau'r frwydr yn erbyn y Saeson. Yn 1575, cipiwyd yr ynys gan Francis Drake a John Norreys, a lladdwyd rhai cannoedd o wragedd a phlant y trigolion, oedd yn perthyn i lwyth MacDonald. Yn 1642, bu lladdfa arall gan filwyr llwyth Campbell o'r Alban, yn ymladd dros y Cyfamodwyr.[1][2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ John Sugden, "Sir Francis Drake", Touchstone-book, cyhoeddwyd gan Simon+Schuster, Efrog Newydd, ISBN 0-671-75863-2
- ↑ "Sir Francis Drake and Music". The Standing Stones. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-03-26. Cyrchwyd 2009-08-02.