Ynys yng nghanol Llyn Toba yn Sumatra, Indonesia yw Ynys Samosir (Indoneseg: Palaw Samosir).

Ynys Samosir
Toba zoom.jpg
Math ynys Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gogledd Sumatra Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Indonesia Indonesia
Arwynebedd 630 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr 1,601 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 2.58°N 98.82°E Edit this on Wikidata

Gydag arwynebedd o 630 km², Samosir yw'r bumed fwyaf ymysg ynysoedd mewn llynnoedd y byd, a'r ynys fwyaf sydd o fewn ynys arall. Ceir nifer o bentrefi arni: Tuk Tuk, Tomok, Ambarita, Simanindo a Panguruan. Ystyrir yr ynys yn ganolbwynt diwylliant y Batak, ac mae'n gyrchfan boblogaidd i dwristaid.