Sumatera
Sumatera,[1] neu Sumatra, sy'n rhan o Indonesia, yw'r chweched ynys yn y byd o ran maint (neu'r seithfed os ystyrir Awstralia yn ynys), tua 470.000 km².
Math | ynys |
---|---|
Poblogaeth | 60,000,000 |
Cylchfa amser | Cylchfa Amser Gorllewin Indonesia |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ynysoedd Sunda Fawr |
Gwlad | Indonesia |
Arwynebedd | 473,481 km² |
Uwch y môr | 12 metr |
Gerllaw | Cefnfor India |
Cyfesurynnau | 0.000000°N 101.997°E |
ID-SM | |
Hyd | 1,700 cilometr |
Mae Sumatera yn ynys hir, yn rhedeg o'r gogledd-orllewin i'r de-ddwyrain, gyda'r cyhydedd tua'r canol. Yng ngorllewin yr ynys mae Mynyddoedd Barisan ac yn y dwyrain mae tir isel, corsiog. I'r de-ddwyrain mae ynys Jawa, a dim ond Culfor Sunda rhyngddynt. Mae Gorynys Malaya i'r gogledd, gyda Culfor Malaca yn eu gwahanu. I'r dwyrain mae ynys Borneo.
Ar un adeg roedd y rhan fywaf o'r ynys wedi ei gorchuddio gan goedwig drofannol, ond erbyn hyn mae llawer o'r goedwig wedi ei dinistrio. Mae hyn wedi peryglu anifeiliaid megis yr orangwtang, y tapir a'r teigr, a rhai planhigion anarferol megis y rafflesia.
Mae'r ynys, a'r ynysoedd bach o'i chwmpas, wedi ei rhannu yn nifer o daleithiau:
- Aceh
- Bangka-Belitung
- Bengkulu
- Jambi
- Lampung
- Riau
- Sumatera Barat (Gorllewin Sumatera)
- Sumatera Selatan (De Sumatera) - prifddinas: Palembang
- Sumatera Utara (Gogledd Sumatera) - prifddinas: Medan
Mae mudiad sy'n ymladd am annibyniaeth oddi wrth Indonesia yn Aceh, yn rhan mwyaf gogleddol yr ynys, er bod cytundeb rhwng y mudiad a llywodraeth Indonesia wedi sicrhau heddwch yn ddiweddar.
Nid yw'r ynys mor boblog a Jawa, gyda tua 40 miliwn o bobl ar ynys tua maint Yr Almaen. Y prif ddinasoedd yw Medan a Palembang. Ceir nifer o wahanol grwpiau ethnig, yn cynnwys y Minangkabau a'r Batak. Dilynwyr Islam yw'r rhan fwyaf o boblogaeth yr ynys, ond mae llawer o'r Batak yn Gristionogion.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 104.