Ynys yng ngogledd Canada yw Ynys Somerset (Saesneg: Somerset Island). Gydag arwynebedd o 24,786 km², hi yw'r ddeuddegfed o ran maint o ynysoedd Canada, a'r 45ain o ran maint yn y byd. Nid oes poblogaeth barhaol arni.

Ynys Somerset
Mathynys Edit this on Wikidata
PoblogaethEdit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolCanadian Arctic Archipelago Edit this on Wikidata
SirNunavut Edit this on Wikidata
GwladBaner Canada Canada
Arwynebedd24,786 km² Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor yr Arctig Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau73.25°N 93.5°W Edit this on Wikidata
Hyd225 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Ynys Somerset

Yn weinyddol, mae'r ynys yn rhan o diriogaeth Nunavut. Saif gerllaw Penrhyn Boothia, gyda Chulfor Bellot yn eu gwahanu. Tua'r flwyddyn 1000, roedd y bobl Thule yn byw ar arfordir gogleddol yr ynys. Yn 1937, sefydlwyd Fort Ross gan Gwmni Bae Hudson, ond bu raid rhoi gorau i'r sefydliad ymhen unarddeg mlynedd oherwydd nad oedd yn economaidd.