Agor y brif ddewislen

Menter fasnachol oedd Cwmni Bae Hudson (Saesneg: Hudson's Bay Company), yn llawn Cwmni'r Anturiaethwyr o Loegr yn Masnachu ym Mae Hudson (Company of Adventurers of England Trading into Hudson's Bay), a chwaraeodd ran bwysig yn Oes y Darganfod a'r fasnach grwyn yng Nghanada. Sefydlwyd yn Llundain, wedi i Médard Chouart Groseilliers ddychwelyd o Fae Hudson ym mis Hydref 1669. ac ymgorfforwyd gan siarter frenhinol ar 2 Mai 1670, gyda'r nod o ganfod Tramwyfa'r Gogledd Orllewin, i feddiannu'r tiroedd ar lannau Bae Hudson, ac i fasnachu yn y tiroedd hynny er budd economaidd Teyrnas Lloegr.

Flag of Canada.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Ganada. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato