Ynys Stewart
Ynys oddi ar arfordir deheuol Ynys y De, Seland Newydd, yw Ynys Stewart (Maori: Rakiura). Mae Culfor Foveaux yn gorwedd rhyngddi ac Ynys y De. Dyma ynys fawr fwyaf deheuol Seland Newydd, gydag arwynebedd o 1,735 km sgwar. Yr unig drefi gweddol fawr yw Port Pegasus ac Oban.

Ynys Stewart o'r gofod (llun NASA
Mae'r ynys yn nodedig am ei thirwedd hardd a'i bywyd gwyllt sy'n cynnwys sawl rhywogaeth brin o adar, e.e. yr Aderyn Weka. Y copa uchaf yw Mynydd Anglem (980 m).