Ynysoedd Desventuradas

Clwstwr o bedair ynys fach yn y Cefnfor Tawel yw Ynysoedd Desventuradas (Sbaeneg: Islas Desventuradas: "Ynysoedd Anffodus"). Mae'n rhan o diriogaeth Tsile. Fe'u lleolir tua 850 km i'r gorllewin o dir mawr Tsile, i'r gogledd-orllewin o Santiago de Chile.

Ynysoedd Desventuradas
Mathynysfor, WWF ecoregion Edit this on Wikidata
PoblogaethEdit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC−06:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadTsile Ynysol Edit this on Wikidata
SirJuan Fernández Edit this on Wikidata
GwladBaner Tsile Tsile
Arwynebedd5.36 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr479 metr Edit this on Wikidata
GerllawY Cefnfor Tawel Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau26.32°S 80°W Edit this on Wikidata
Map

Mae'r pedair ynys fel a ganlyn:

  • San Ambrosio (arwynebedd 3.2 km2)
  • Islote González (0.25 km2)
  • San Félix (2 km2)
  • Roca Catedral (0.01 km2)

Er bod yr ynysoedd yn fach, yn anghysbell ac yn anodd eu cyrraedd, mae garsiwn o lynges Tsile wedi'i leoli ar Ynys San Félix, sydd hefyd â maes awyr.