Defnyddir y term ynysydd thermol i gyfeirio at ddefnyddiau sy'n atal (neu'n lleihau) graddfa trosglwyddo gwres. Mae egni gwres yn cael ei drosglwyddo drwy ddarfudiad (Saesneg: convection) a phelydriad (radiation).

Ynysydd thermol
Enghraifft o'r canlynoltechnoleg, gweithgaredd Edit this on Wikidata
Mathynysydd Edit this on Wikidata
Rhan oarchitectural engineering Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Ynysydd thermol allan o bren a ddefnyddir y tu fewn i waliau adeilad i gadw'r lle'n gynnes.

Mae'r holl fetalau yn ddargudyddion da e.e. copr, arian, aliwminiwm a'r holl anfetelau yn ynysyddion da. Mae nwyon a hylifau yn ddargludyddion thermol gwael ond yn ddarfudyddion da. Yr ynyswyr mwyaf effeithiol ydy'r defnyddiau hynny sy'n trapio pocedi o aer. Gan nad ydy'r pocedi hyn o aer yn medru symud, yna ni allant drosglwyddo gwres trwy ddarfudiad ac mae'n rhaid, felly, i'r gwres ddargludo'n araf iawn trwy'r pocedi aer yn ogystal â'r defnydd o aer sydd rhyngddyn nhw. Dyma sut mae deunydd ynysu llofft neu atig, dillad ac ynysyddion mewnol waliau yn gweithio. Mae cynhwysydd "flasg thermos", er enghraifft, yn cadw'r tu fewn yn gynnes, neu'n oer.

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am ffiseg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.