Young Marble Giants
Roedd y Young Marble Giants yn grŵp new wave o Gaerdydd rhwng 1978 a 1980, gan ail-ffurfio am rhai blynyddoedd yn 2006.
Young Marble Giants. | |
---|---|
![]() | |
Alison Statton, Peter Joyce, Philip Moxham, Stuart Moxham tua 1978/79 | |
Gwybodaeth gefndirol | |
Tarddiad | Caerdydd |
Cerddoriaeth | Post-punk New Wave Minimaliaeth |
Blynyddoedd | 1978-80 Ail ffurfio 2006 |
Label(i) recordio | DZ Block Records Rough Trade Domino |
Cyn aelodau | |
Alison Statton Peter Joyce Philip Moxham Stuart Moxham |
Yr aelodau oedd y gantores Alison Statton gyda'r brodyr Philip a Stuart Moxham ar gitarau. Doedd y band ddim am gael drymiwr felly defnyddiwyd tapiau o beiriant drymiau Peter Joyce a fu hefyd yn aelod yn y dyddiau cynnar. Mae organ trydanol i'w clywed ar rhai o'u caneuon.[1]
Roedd eu sŵn minimalaidd, moel, yn debyg i recordiad demo syml ac yn dra gwahanol i'r steil ymosodol punk ar ddiwedd y 70au. Dywedodd Stuart Moxhan roedd y sŵn y band yn mynd yn erbyn eithafion y cyfnod.
Rhyddhawyd un sesiwn i raglen John Peel ar BBC Radio 1 ac un LP Colossal Youth (ar label Rough Trade) a recordiwyd mewn 5 diwrnod a chymysgwyd mewn 20 munud.[2]
Ni chafodd y band fawr o sylw neu lwyddiant masnachol ar y pryd, ond wnaethon nhw deithiau ar gyfandir Ewrop ac yn yr Unol Daleithiau.
Mae'r LP Colossal Youth bellach yn cael ei gyfrif fel clasur gan feirniad cerddoriaeth a cherddorion. Er enghraifft dywedodd Kurt Cobain o Nirvana a Gruff Rhys o Super Furry Animals roedd y Young Marble Giants wedi bod yn ddylanwad mawr arnynt.[3]
DiscograffiGolygu
Recordiau stiwdioGolygu
- Colossal Youth (1980)
EPsGolygu
- Final Day (1980)
- Testcard E.P. EP (1981)
BywGolygu
- Peel Sessions (1991)
- Live at the Hurrah! (2004)
Aml-gyfrannogGolygu
- Salad Days (2000)- fersynnau demo o ganeuon Colossal Youth a Testcard
OrielGolygu
Yng ngŵyl Factory, Nivelles, Gwlad Belg, 2008
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Plagenhoef, Scott; Schreiber, Ryan, gol. (November 2008). The Pitchfork 500. Simon & Schuster. t. 43. ISBN 978-1-4165-6202-3.
- ↑ https://www.facebook.com/YoungMarbleGiantsOfficial Young Marble Giants
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=SalY3kgGz_M