Ieper
(Ailgyfeiriad o Ypres)
Dinas yng Ngwlad Belg yw Ieper (Ffrangeg: Ypres) gyda phoblogaeth o tua 34,900 ac wedi'i lleoli yng Ngorllewin Fflandrys, sy'n rhanbarth Fflemaidd. Fe'i dinistrwyd yn llwyr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ond cafodd ei hailgodi, er gwaethaf dymuniad Churchill i gadw'r holl ddinas yn gofadail i'r milwyr hynny a fuodd farw. Fflemeg yw'r gair Ieper, sef iaith frodorol Gwlad Belg.
Math | municipality of Belgium, Belgian municipality with the title of city |
---|---|
Prifddinas | Ieper |
Poblogaeth | 35,039 |
Pennaeth llywodraeth | Emmily Talpe |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Gefeilldref/i | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Iseldireg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Police Zone ARRO Ieper, Emergency zone Westhoek |
Sir | Arrondissement of Ypres |
Gwlad | Gwlad Belg |
Arwynebedd | 131.45 km² |
Gerllaw | Q2333313 |
Yn ffinio gyda | Vleteren, Heuvelland, Poperinge, Lo-Reninge, Langemark-Poelkapelle, Zonnebeke, Comines-Warneton |
Cyfesurynnau | 50.8508°N 2.885°E |
Cod post | 8900, 8902, 8904, 8908, 8906 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Mayor of Ypres |
Pennaeth y Llywodraeth | Emmily Talpe |
Bu yma dref ers dyddiau'r Rhufeiniaid.[1]
Roedd Ieper yn safle strategol adeg y Rhyfel Byd Cyntaf gan fod yr Almaenwyr yn cynllunio i fynd i Ffrainc o'r gogledd a chyrraedd yr arfordir. Roedd yr Almaenwyr yn amgylchynnu y dref o'r gogledd, y dwyrain a'r de ac yn ymosod arni drwy ran fwyaf o gyfnod y rhyfel.
Brwydrau'r Rhyfel Byd Cyntaf
golygu- Brwydr Gyntaf Ieper: 31 Hydref - 22 Tachwedd 1914
- Ail Frwydr Ieper: 22 Ebrill - 25 Mai 1915
- Brwydr Messines, 7 - 14 Mehefin 1917
- Trydedd Brwydr Ieper (Brwydr Passchendaele): 21 Gorffennaf - 6 Tachwedd 1917
- Pedwaredd Brwydr Ieper, 28 Medi - 2 Hydref 1918
Adeiladau a chofadeiladau
golygu- Amgueddfa Godshuis Belle
- Bellewaerde
- Eglwys Gadeiriol Sant Martin
- Eglwys Sant Siôr
- Neuadd Brethyn (gyda'r amgueddfa "In Flanders Fields")
- Clwyd Menin - gyda 54,896 o enwau wedi'u cerfio arno
- Mynwentydd
Enwogion
golygu- Cornelius Jansen (1585-1638), esgob
- Jules Malou (1810-1886), gwleidydd